Tystysgrif safle clwb

Mae tystysgrif Safle Clwb yn caniatáu i glybiau cymdeithasol, clybiau chwaraeon neu glybiau gweithwyr:

  • werthu neu gyflenwi alcohol i aelodau neu westeion
  • darparu adloniant wedi'i reoleiddio, fel perfformiadau cerddorol neu ddangos ffilmiau i aelodau neu westeion

Gweld y ffioedd trwyddedu presennol

Gwneud cais ar-lein am dystysgrif Safle Clwb

Neu lawrlwythwch y ffurflen gais am dystysgrif Safle Clwb a'r datganiad mewn fformat MS Word.

Mae clybiau yn fudiadau lle mae'r aelodau wedi dod ynghyd at ddibenion cymdeithasol, chwaraeon neu wleidyddol penodol.

Yna, gallant gyfuno i swmp-brynu alcohol fel aelodau'r sefydliad i'w gyflenwi yn y clwb.

Mae'r clwb yn gwerthu alcohol i westeion yn unig; mae'r aelodau'n prynu alcohol, nid oes gwerthu (gan fod yr aelod yn berchen ar ran o'r stoc alcohol) ac mae'r arian sy'n cael ei roi dros y bar yn fodd o sicrhau cydraddoldeb rhwng aelodau oherwydd gallai un aelod yfed mwy nag un arall.

Dim ond clybiau cymwys sydd ag o leiaf 25 aelod ac sy'n bodloni'r amodau cymhwyso yn Neddf Trwyddedu 2003 all ddal tystysgrifau safle clwb.

Mae rhoi tystysgrif safle clwb yn golygu bod hawl gan glwb sy'n gymwys i gael buddion penodol.

Cysylltu

Anfonwch e-bost at [email protected] neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofynnwch am y Tîm Trwyddedu.