Dechrau busnes bwyd

Meddwl am sefydlu eich busnes bwyd eich hun?

Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnig hyfforddiant hylendid bwyd am ddim ar Lefel 2 i fusnesau bwyd newydd sy'n cofrestru yn ardal Cyngor Dinas Casnewydd o 31 Hydref 2023 hyd at fis Medi 2024. 

Y sesiynau hyfforddiant hyn yn wedi'u hachredu gan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd a byddant yn cael eu cynnal rhwng 9.30am-5pm. Byddant ar gael i un person fesul busnes ac mae 15 lle ar gael ym mhob cwrs. Bydd arholiad ar ddiwedd y sesiwn. 

Bydd y cyrsiau hyfforddiant yn cael eu cynnal yn y Ganolfan Ddinesig a Chanolfan Gymunedol Ringland.

Yn ogystal â'r cwrs Diogelwch Bwyd Sylfaen Lefel 2, bydd ymweliad cyngor hanner awr ychwanegol hefyd ar gael cyn yr arolwg bwyd cychwynnol er mwyn rhoi pecyn a thermomedr profi gan Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell am ddim. Bydd hyn yn cynnwys cyngor ar gynlluniau ac unrhyw ymholiadau ychwanegol eraill. 

Bydd cwrs Lefel 3 Diogelwch Bwyd Canolradd hefyd o fis Ebrill 2024 dros dridiau, sydd hefyd ar gael i un person fesul busnes.

Dyma fanylion y cwrs:

Diogelwch Bwyd Sylfaen Lefel 2

  • Dydd Iau 29 Chwefror - Neuadd Hendre, Caanolfan Gymunedol Ringland
  • Dydd Mercher 20 Mawrth - Ystafell Bwyllgor 1, Canolfan Dinesig
  • Dydd Llun 22 Ebrill - Ystafell Bwyllgor 3, Canolfan Dinesig
  • Dydd Llun 20 Mai - Ystafell Bwyllgor 5, Canolfan Dinesig
  • Dydd Llun 24 Mehefin - Ystafell Bwyllgor 1, Canolfan Dinesig
  • Dydd Llun 29 Gorffennaf - Ystafell Bwyllgor 3, Canolfan Dinesig
  • Dydd Llun 26 Awst - Ystafell Bwyllgor 3, Canolfan Dinesig
  • Dydd Llun 30 Medi - Ystafell Bwyllgor 3, Canolfan Dinesig

Diogelwch Bwyd Canolradd Lefel 3

  • 17,18,19 Ebrill - Ystafell Bwyllgor 3, Canolfan Dinesig
  • 17,18,19 Gorffennaf - Ystafell Bwyllgor 2, Canolfan Dinesig
  • 2, 3, 4 Medi - Ystafell Bwyllgor 3, Canolfan Dinesig

E-bostiwch [email protected] i gael mwy o wybodaeth.


 

Daw cyllid ar gyfer y cyrsiau o Gronfa Ffyniant Gyffredin llywodraeth y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o bileri canolog agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o gyllid i’w fuddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2025.

Nod y gronfa yw gwella balchder mewn ardaloedd a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau ac ardaloedd a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.

Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus


Ewch i wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd i gael gwybodaeth am ddechrau busnes bwyd.

Bydd angen i chi ddeall:


 

Os ydych chi'n berchen ar fusnes bwyd yng Nghasnewydd, neu wedi cymryd drosodd busnes o'r fath, rhaid i chi gofrestru'ch busnes gyda'r cyngor o leiaf 28 niwrnod cyn agor neu gymryd perchnogaeth.

Mae hyn yn cynnwys bwytai, caffis, siopau, cerbydau danfon, faniau cŵn poeth a hufen iâ, stondinau marchnad a stondinau eraill.

Gwnewch gais i gofrestru busnes bwyd ar-lein

Neu lawrlwythwch ffurflen gofrestru safle bwyd (pdf)

Os oes gennych fusnes bwyd symudol ac rydych chi'n bwriadu masnachu ar y briffordd yng Nghasnewydd, bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd masnachu ar y stryd.

Os ydych chi'n bwriadu gwerthu bwyd poeth ar ôl 11pm, gwerthu alcohol neu ddarparu adloniant wedi'i reoleiddio, bydd angen i chi wneud cais am drwydded 

Darllenwch am fenthyciadau a grantiau dechrau busnes

Hefyd, mae'n bosibl y bydd angen i chi wneud cais am gymeradwyo eich safle bwyd os byddwch chi'n bwriadu defnyddio cynhyrchion heb eu prosesu sy'n dod o anifeiliaid (e.e. cig ffres, briwgig amrwd, llaeth amrwd neu wyau).