Hyfforddiant hylendid bwyd

Gweithdai diogelwch bwyd am ddim

Rydym yn cynnig gweithdai diogelwch bwyd am ddim i bob busnes yng Nghasnewydd.

Bydd y gweithdai yn un awr y sesiwn ac maent wedi'u cyfyngu i un person fesul busnes.

Mae pedwar gweithdy gwahanol y gallwch eu harchebu, sef:

  • Canllawiau croeshalogi ac E.coli
  • Strwythur a chynnal a chadw
  • Systemau Rheoli Diogelwch Bwyd (FSMS); Bwyd mwy diogel, busnes gwell (SFBB); a dadansoddi peryglon a phwynt rheoli critigol (HACCP)
  • Glanhau a diheintio

Bydd pob cwrs yn cael ei gynnal rhwng 11.30am a 12.30pm ar y dyddiadau a ddangosir isod, yn Ystafell Bwyllgor 7 yng Nghanolfan Ddinesig Casnewydd.

Canllawiau croeshalogi ac E.coli

Dydd Gwener 15 Mawrth

Dydd Gwener 7 Mehefin

Strwythur a chynnal a chadw

Dydd Iau 4 Ebrill

Dydd Gwener 28 Mehefin

Systemau Rheoli Diogelwch Bwyd (FSMS); Bwyd mwy diogel, busnes gwell (SFBB); a dadansoddi peryglon a phwynt rheoli critigol (HACCP)

Dydd Llun 29 Ebrill

Dydd Mawrth 16 Gorffennaf

Glanhau a diheintio

Dydd Iau 16 Mai

Dydd Mawrth 13 Awst

I gofrestru eich diddordeb yn unrhyw un o'r sesiynau, e-bostiwch [email protected]


 

Daw cyllid ar gyfer y cyrsiau o Gronfa Ffyniant Gyffredin llywodraeth y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o bileri canolog agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o gyllid i’w fuddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2025.

Nod y gronfa yw gwella balchder mewn ardaloedd a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau ac ardaloedd a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.

Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus