Cwynion am fwyd

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gyfrifol am wneud yn siwr bod bwyd sy'n cael ei werthu yng Nghasnewydd yn ddiogel i'w fwyta.

Mae'n rhaid i unrhyw safle sy'n cadw, yn paratoi, yn cynhyrchu, yn coginio neu'n gwerthu bwyd gydymffurfio â chyfraith diogelwch bwyd

Os nad ydych chi'n hapus ag unrhyw fwyd neu ddiod a brynwyd gennych, dylech, yn y lle cyntaf, gysylltu â'r siop, y gwneuthurwr neu'r cyflenwr lle y prynoch chi'r nwyddau.

Mae tîm diogelwch bwyd y cyngor yn delio â phroblemau bwyd sy'n peri risg i iechyd y cyhoedd yn unig, er enghraifft:

  • bwyd sy'n anaddas i'w fwyta, e.e. cig sy'n pydru

  • bwyd sydd wedi'i halogi, e.e. llwydni sylweddol ar gaws

  • unrhyw eitem sy'n cael ei ddarganfod yn y bwyd, na ddylai fod yno

Pan fyddwch yn cwyno am fwyd, GWNEWCH y canlynol...

  • Sicrhau eich bod wedi darllen y label a'ch bod yn gyfarwydd â'r dyddiadau 'ar ei orau cyn' / 'defnyddio erbyn' a'r cyfarwyddiadau defnyddio

  • Cadw derbynebau

  • Cadw pecyn neu gynhwysydd y bwyd

  • Cadw'r bwyd yn yr oergell neu'r rhewgell, yn enwedig os yw'ch cwyn yn ymwneud â phydru neu flas ac arogl troi ar y bwyd

  • Sicrhau bod digon o fwyd yn weddill i'w samplu fel y gall profion gael eu cynnal os bydd angen

Pan fyddwch yn cwyno am fwyd, PEIDIWCH â gwneud y canlynol...

  • Tynnu unrhyw eitem allan o'r bwyd - gadewch yr eitem yn ei lle
  • Rhoi'r eitem yn eich ceg na llyfu'r bwyd gerllaw'r eitem - gallai hyn effeithio ar unrhyw brofion angenrheidiol
  • Gadael i'r bwyd bydru ymhellach - cadwch y bwyd yn yr oergell neu'r rhewgell
  • Taflu dim o'r bwyd

Cwynion am fusnesau bwyd

Os oes gennych bryderon am arferion trafod bwyd neu safonau glendid mewn unrhyw fusnes bwyd yng Nghasnewydd, dylech anfon y manylion trwy neges e-bost at [email protected] neu gysylltu â thîm diogelwch bwyd iechyd yr amgylchedd Cyngor Dinas Casnewydd