Friars Walk

Friars Walk signage

Mae Friars Walk yn gynllun hamdden a siopa mawr yng nghanol dinas Casnewydd gyda mwy na 36,230 metr sgwâr o ofod manwerthu a hamdden, gan gynnwys siop adrannol, sinema, siopau, bwytai, maes parcio a gorsaf fysus.

Mae datblygiad Friars Walk wedi cynyddu dalgylch Casnewydd o 211,000 i 367,000 gyda tua 10-12 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn (Ffynhonnell: Javelin/DTZ).

Bydd hyn yn dyblu gwerthiannau manwerthu’r ddinas, gan ychwanegu £100 miliwn y flwyddyn.

Agorwyd Friars Walk ar 12 Tachwedd 2015 gan Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd a Phrif Weinidog Cymru. 

Roedd 102,000 o ymwelwyr ar y diwrnod agor a 350,000 o ymwelwyr dros y penwythnos cyntaf.

Dyma flas o’r hyn ddigwyddodd ar y diwrnod agor a’r hyn roedd gan bobl i ddweud: 

Debenhams yw prif siop Friars Walk, gyda Next, Topshop, New Look, River Island, H&M a llawer o fanwerthwyr eraill yn llenwi’r unedau.

Ymhlith y bwytai poblogaidd sydd wedi agor yno mae Nando’s, Las Iguanas, Chiquitos, Prezzo, TGI Fridays. 

Ac mae gan ganol y ddinas sinema unwaith eto ar ôl i Cineworld agor!

Mae Friars Walk wedi’i ddylunio i annog siopwyr i symud drwodd i Commercial Street a’r ardaloedd manwerthu cyfagos.

Mae sgwâr newydd yn cysylltu Friars Walk â glan yr afon, Prifysgol De Cymru a’r bont eiconig.

Mae maes parcio newydd gyda 350 o leoedd a gorsaf fysus newydd.

Ymwelwch â gwefan Friar’s Walk i gael rhagor o wybodaeth.

Amserlen

  • Gwnaeth Cyngor Dinas Casnewydd benodi Queensberry Real Estate i ddatblygu Friars Walk yn 2010
  • Ym mis Rhagfyr 2013, cytunodd y cyngor i fenthyg £90 miliwn i Queensberry Real Estate mewn bargen fasnachol i sicrhau bod modd cyflawni’r datblygiad yn brydlon
  • Dechreuwyd y gwaith o ddymchwel Sgwâr John Frost yn 2014 – a daeth i ben gyda’r ffrwydrad rheoledig a ddymchwelodd faes parcio Capitol.
  • Dechreuodd y gwaith adeiladu’n swyddogol yn wythnos gyntaf mis Ebrill 2014 ac yn dilyn cynnydd cyflym, cynhaliwyd seremoni gosod y garreg gopa ar 11 Rhagfyr 2014
  • Yn rhan o waith Queensberry’n datblygu Cynllun Friars Walk, cynhaliwyd archwiliad archeolegol i leoli unrhyw adeiladau hanesyddol ar y safle.  Daethpwyd o hyd i weddillion yn union yn lle’r oedd disgwyl a chawsant eu cofnodi a’u hamddiffyn ar ôl gweithio gydag arbenigwyr.
  • Agorodd Friars Walk ar 12 Tachwedd 2015