Archebu bagiau, biniau, blychau a chadis
Os ydych chi'n cynhyrchu mwy o ailgylchu nag y gallwch ffitio yn eich cynwysyddion ailgylchu presennol, neu os yw'ch un chi wedi torri neu wedi mynd ar goll, cliciwch ar y ddolen isod i archebu mwy.
Gallwch gasglu bagiau cadi gwastraff bwyd o'r lleoliadau canlynol:
- Y Llyfrgell Ganolog
- Llyfrgell Malpas
- Llyfrgell Ringland
- Llyfrgell Tŷ-du
- Llyfrgell Sain Silian
- Llyfrgell Tŷ Tredegar
- Llyfrgell Maindee
- Canolfan Gymunedol Hatherleigh
- Canolfan Gymunedol Maesglas
- Canolfan Gymunedol Ringland
- Canolfan Gymunedol Rivermead
- Neuadd y Dref Caerllion
- Prif Dderbynfa'r Ganolfan Ddinesig
- Siop Ailddefnyddio Wastesavers ym Maendy
- Siop Ailddefnyddio Wastesavers ym Maesglas
Casgliadau cewynnau a gwastraff hylendid
Rydym yn casglu amrywiaeth o eitemau fel rhan o'n gwasanaeth casglu cewynnau a gwastraff hylendid am ddim, sy'n cynnwys cewynnau, bagiau cewynnau, weips a gwlân cotwm, yn ogystal â chynhyrchiol anymataliaeth.
Rydym hefyd yn casglu bagiau colostomi gwag, bagiau stoma diheintus, a chathetrau fel rhan o'r gwasanaeth hwn. Rydym yn casglu'r gwastraff hwn bob pythefnos o gartrefi sy'n cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu hwn.
Gwnewch gais am gasgliad cewyn neu gwastraff hylendid
Biniau mwy ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu
Os oes pump neu fwy o bobl yn byw yn eich cartref – a’ch bod yn teimlo eich bod yn ailgylchu popeth y gallwch ond bod angen mwy o le o hyd arnoch ar gyfer eich gwastraff na ellir ei ailgylchu – cewch wneud cais am fin mwy.
Gwnewch gais am fin mwy