Siop y Domen

  • Mae Siop y Domen ar agor o ddydd Llun i ddydd Sul, 9am - 4pm.
  • Nid oes angen apwyntiad - ond mae’n rhaid i chi gadw lle o hyd i ymweld â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGC).
  • Os oes gennych apwyntiad i fynd i’r CAGC gallwch fynd i’r Siop Dipio cyn neu ar ôl eich amser apwyntiad CAGC.
  • Dilynwch y mesurau a'r arwyddion ymbellhau cymdeithasol ar y safle.
  • Defnyddiwch yr hylif diheintio dwylo wrth fynedfa'r siop.
  • Dilynwch arweiniad a chyfarwyddiadau'r staff bob amser.

 

Mae Siop y Domen wedi’i lleoli yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Casnewydd ac mae'n cael ei rhedeg gan Wastesavers.   

Mae eitemau amldro sy'n rhy dda i'w taflu yn cael eu glanhau a'u paratoi'n barod i'w gwerthu.  

Mae'r siop yn gwerthu dodrefn, nwyddau cartref, bric-a-brac, beiciau, clybiau golff a gêmau, ac mae’r stoc yn cael ei hadnewyddu'n wythnosol. Oes angen dodrefn arnoch neu rywbeth i helpu gyda hobi? Galwch draw! 

Cadwch lygad ar Facebook a Twitter am eitemau arbennig sydd ar gael yn y siop.