Cŵn Strae

Mae'n ofyniad cyfreithiol bod cŵn yn gwisgo coler gyda disg ynghlwm wrtho, ag enw a chyfeiriad ar y ddisg.

Mae unrhyw gŵn strae y deuir o hyd iddyn nhw yng Nghasnewydd yn cael eu cludo i Gartref Cŵn Dinas Casnewydd a bydd gan berchennog saith niwrnod i hawlio’r ci yn ôl.

Mae ein gwasanaeth casglu cŵn strae ar gael yn ystod oriau arferol swyddfeydd (9am i 4.30 pm ar dydd Llun i ddydd Iau a 9am i 4pm ar ddydd Gwener). I roi gwybod am gi strae defnyddiwch y ddolen isod neu ffoniwch 01633 656656.  

Os oes ci strae yn eich meddiant y tu allan i oriau swyddfa'r gwasanaeth cŵn strae, dylech ffonio 01633 656656 i gael manylion y trefniadau y mae'n rhaid i chi eu gwneud cyn mynd â'r ci i Gartref Cŵn Dinas Casnewydd (neu ein milfeddygon os yw'r ci’n sâl neu wedi'i anafu).

Adrodd ar gi strae

Gellir hefyd gosod microsglodyn mewn ci.  Dull o roi rhif adnabod unigol parhaol i gi sy’n cael ei ychwanegu at y Gofrestr PetLog yw hwn.

Oriau agor a chostau