Gwasanaeth ailgartrefu

Dogs Home - open day

Mae Cartref Cŵn Dinas Casnewydd yn derbyn ceisiadau i ailgartrefu cŵn crwydr a chŵn dieisiau. 

Gweler ein tudalen Facebook i weld cŵn sy'n aros i gael eu hailgartrefu ar hyn o bryd - rhaid gwneud ceisiadau gyda thystiolaeth ategol o fewn y cyfnod amser a ddyrennir ar gyfer pob ci.

Ein nod yw dod o hyd i gartrefi da ar gyfer cynifer o gŵn â phosibl a pheidio â lladd unrhyw gi iach.

Cŵn crwydr yw’r rhan fwyaf o'n cŵn ac yn aml nid ydym yn gwybod dim am eu cefndir neu o le maen nhw’n dod.

Ni fyddwn byth yn ailgartrefu ci y mae ganddo, yn ein barn ni, anian ymosodol neu beryglus, ond ni allwn ond rhoi sylwadau am ymddygiad ci yn y cynelau. Mae'r cŵn yn cael eu cadw am o leiaf 7 diwrnod ac os na chaiff eu hawlio ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, efallai y cânt eu hailgartrefu gennym ni. 

Mae Cartref Cŵn Casnewydd angen eich help!

Allech chi ofalu am unrhyw un o'r cŵn crwydr neu ddigroeso nes bod modd dod o hyd i gartref addas am byth?  

Ers llacio cyfyngiadau Covid, rydyn ni yma yng Nghartref Cŵn Casnewydd wedi gweld nifer fawr o gŵn sydd angen gofal. Mae pob cynel bellach wedi cael ei gymryd, ac rydym yn chwilio am ofalwyr maeth i sicrhau ein bod yn cynnal y gorau ar gyfer ein cŵn.

Hyd yn oed os gallwch chi ond agor eich calon a'ch cartref am gyfnod byr byddem wrth ein boddau'n clywed oddi wrthych. Byddwn yn eich cefnogi a byddwch yn cael yr holl fwyd a chyfarpar a'r help y gall fod ei angen arnoch.

Dewch yn un o’n maethwyr cŵn

Y broses ailgartrefu

Cam 1: Ymchwilio i frid, oedran a maint cŵn i weld beth allai fod yn gweddu orau i chi. Edrychwch ar dudalen Facebook Cartref Cŵn Dinas Casnewydd i weld a oes unrhyw gŵn addas. Os ydych yn dod o hyd i gi y mae gennych ddiddordeb ynddo, dylid

Cam 2: Gwneud cais am y ci gyda thystiolaeth ategol, h.y. hanes meddygol anifeiliaid anwes blaenorol, caniatâd landlord os ydych mewn llety rhent, lluniau o’ch gardd a phrawf adnabod.

Byddwn yn ystyried pob cais ac yn dewis hyd at dri chartref posibl ar gyfer pob ci, gan eu hysbysu dros y ffôn. 

Rydym yn ystyried oedran, anghenion hyfforddi, lefelau ynni ac anghenion ymarfer corff y ci, a thystiolaeth ymgeisydd hefyd o brofiad blaenorol gyda chŵn, oriau gwaith, aelodau o'r teulu, darpariaeth ar gyfer y ci ac ati.  

Os byddwch yn aflwyddiannus gyda’ch dewis cyntaf, peidiwch â digalonni. Dyw hyn ddim yn golygu na allech gynnig cartref gwych i gi achub, ond mae'n bosibl bod y ci penodol a ddewisoch yn fwy addas ar gyfer cartref gwahanol. Mae ein penderfyniadau’n derfynol. 

Os credwch y gallwch gynnig cartref a'ch bod yn gallu bodloni ein holl anghenion, lawrlwythwch ein:

 Ffurflen gais i ailgartrefu cŵn 

Cam 3: Os cewch eich dewis fel rhywun a fyddai’n addas ar gyfer ci penodol, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad i chi ymweld â ni i gwrdd â'r ci.

Yn ystod yr ymweliad, bydd y tîm ailgartrefu yn gwylio’r rhyngweithio rhyngoch chi a'r ci a bydd yn dewis y ci sy’n gweddu orau i chi.

Efallai y bydd angen mwy nag un ymweliad gan y bydd angen cyflwyniadau gydag unrhyw anifeiliaid anwes, oedolion neu blant eraill a fydd yn byw gyda'r ci.

Gallai fod angen asesiad a gwybodaeth ychwanegol arnom hefyd a allai gynnwys ymweliad â’ch cartref neu ymweliad rhithwir â’ch cartref.

Cam 4: Os ydych yn cael eich paru â chi, byddwn yn cysylltu â chi i gytuno ar bris a threfnu apwyntiad i chi gasglu eich ci newydd.

Bydd ein holl gŵn wedi’u harchwilio gan ein milfeddyg i sicrhau eu bod yn iach cyn cael cartref newydd. Rydym hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bob ci sydd wedi'i ailgartrefu gael microsglodyn a'i ysbaddu.

Petai’r ci’n mynd yn sâl (dim anafiadau corfforol) o fewn 7 diwrnod i adael Cartref Cŵn Dinas Casnewydd, rydym yn cynghori eich bod yn trefnu gweld ein milfeddyg. 

Rydym yn eich cynghori'n gryf i yswirio eich ci newydd.  

Mewn amgylchiadau eithriadol byddwn yn cymryd ci yn ôl, ar yr amod bod gennym le ar gael.

Nid ad-delir yr arian a dalwyd am gi. Trafodwch ein Polisi Dychwelyd i Gartref Cŵn Dinas Casnewydd os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch.

Cysylltu

COVID-19: rhaid trefnu apwyntiadau gyda thîm y cynelau cyn ymweld.

Cartref Cŵn Dinas Casnewydd, Stephenson Street, Casnewydd NP19 0RB

Gweler oriau agor a ffioedd Cartref Cŵn Dinas Casnewydd

Gweler Cartref Cŵn Dinas Casnewydd ar fap Fy Nghasnewydd

Ffoniwch: (01633) 290902 i gael rhagor o gyngor. 

E-bost: [email protected]

TRA124488 02/09/2020