Astudiaethau Achos

Ein gwaith

Rydym wedi gwneud nifer o welliannau’n ddiweddar i lwybrau a seilwaith teithio llesol ledled Casnewydd diolch i grantiau gan Lywodraeth Cymru.

Pont teithio llesol gorsaf Casnewydd

Ym mis Ebrill 2023, agorodd y cyngor bont teithio llesol newydd yng Ngorsaf Casnewydd. 

Mae'r bont yn gyswllt mwy diogel a hygyrch uwchben y brif reilffordd rhwng canol y ddinas a Devon Place. Mae'n disodli’r hen isffordd.

 

Spokesafe Casnewydd

Spokesafe yw uned storio beiciau bwrpasol gyntaf Casnewydd. 

Mae'r uned ar agor 24 awr y dydd, ac mae'n lle hawdd ei gyrraedd i feicwyr adael eu beic yng nghanol y ddinas.

Sefydlwyd yr uned gan Gap Wales, elusen lawr gwlad yng Nghasnewydd sy'n cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches, pobl ddigartref neu bobl mewn llety ond sy’n agored i niwed, a dioddefwyr masnachu pobl, ac sy’n gweithio i wneud Casnewydd yn lle gwell i bawb.

Mae Gap Wales eisoes yn rhedeg sawl prosiect llwyddiannus yn y ddinas, gan gynnwys prosiect Beiciau i Ffoaduriaid Casnewydd, cynllun sy'n ailgylchu beiciau ac yn eu rhoi i bobl sydd angen trafnidiaeth.

Gwnaed Spokesafe yn bosibl diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o waith Uned Cyflenwi Burns.

Mae'r Uned yn gweithio i weithredu argymhellion comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru.  Nod yr argymhellion yw adnabod dewisiadau amgen ar gyfer teithiau ar yr M4 ac annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn rhanbarth y de-ddwyrain.

Cynlluniau teithio llesol Gorllewin Casnewydd

Gwnaethom welliannau yng Nghoed Melyn, Bryngaer Croes Trelech a Pharc Tredegar i gysylltu cymunedau â mannau gwaith ac addysg, ac i roi mynediad i ddefnyddwyr cadair olwyn, yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr am gyflwr y llwybrau presennol.

Sicrhawyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i roi gwelliannau ar waith i greu llwybr Teithio Llesol, a arweiniodd at arwyneb llwybr lletach, mwy gwastad sydd o fudd i’r cyhoedd waeth beth fo’u gallu. 

Mae arwyneb newydd y llwybr hefyd yn cynnwys nodweddion arbennig i ddiogelu gwreiddiau’r coed gerllaw. 

Dyluniwyd y goleuadau isel a osodwyd ar y llwybr gyda'r amgylchedd mewn cof ac i leihau'r effeithiau ar fywyd gwyllt.  Mae goleuadau lefel isel wedi'u bwriadu ar gyfer ardaloedd â thirweddau tywyll yn y bôn, megis parciau cenedlaethol.

Llwybr teithio llesol Monkey Island

Wedi'u hadnabod drwy broses o ymgynghori ar y Map Rhwydwaith Integredig, roedd project Monkey Island yn rhan o'n project teithio llesol Cysylltiadau Mewnol y Ddinas.

Yn rhan ohono, adeiladwyd ramp i gysylltu'r llwybr teithio llesol ar hyd Ffordd Ddosbarthu’r De i fynedfa Heol y Gorfforaeth i lwybr teithio llesol dwyrain glan yr afon Casnewydd.  Mae hyn yn cwblhau llwybr cylchol, di-groesfan ar hyd dwy lan Afon Wysg yng nghanol y ddinas.

Mae'r llwybrau'n cysylltu cyrchfannau masnachol a phreswyl i'r de o Ffordd Ddosbarthu'r De, ac yn elfennau sylfaenol o’r cynllun teithio llesol ehangach i wella cysylltedd rhwng Nash Road a Corporation Road, ac â Phentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd.

Mae'r llwybrau hyn yn cysylltu â chynlluniau teithio llesol presennol a llwybrau rhwydwaith beicio cenedlaethol sy'n arwain i ogledd a gorllewin y ddinas, gan eu cysylltu â safleoedd cyflogaeth mawr a chanolfannau trafnidiaeth.

Llwybr Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog

Yn sgil cwblhau gwaith ailwynebu y rhan o lwybr camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu rhwng Casnewydd a Chwmbrân yn 2022, mae'r llwybr cyfan o fewn Casnewydd wedi cael gwelliannau i wneud teithio llesol yn haws.

Mae llwybr Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn rhoi llwybr rholio di-draffig o Barrack Hill yng Nghasnewydd i siroedd cyfagos Caerffili a Thorfaen.

Mae rhwystrau newydd hefyd wedi'u gosod ar hyd y mynedfeydd i'r llwybrau tynnu sy'n ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn gael mynediad. Roedd y llwybr blaenorol yn anwastad, ac roedd sylwadau gan gerddwyr a beicwyr wedi dangos ei bod yn anodd ei ddefnyddio, yn enwedig ym misoedd y gaeaf.

Sicrhawyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i roi gwelliannau ar waith i greu llwybr Teithio Llesol, a arweiniodd at arwyneb llwybr lletach, mwy gwastad sydd o fudd i’r cyhoedd waeth beth fo’u gallu.