Dalgylchoedd

Gallwch wneud cais i'ch plentyn gael ei dderbyn i unrhyw ysgol ond rhoddir blaenoriaeth i blant sy'n byw yn nalgylch ysgol gynradd neu uwchradd dros blant sy'n byw y tu allan i'r dalgylch ar adeg gwneud cais, er nad yw hyn yn gwarantu lle yn yr ysgol.

Mae pob ysgol yng Nghasnewydd yn gwasanaethu dalgylch a bydd pob cyfeiriad yng Nghasnewydd yn dod o fewn dalgylch ysgol Gymraeg a dalgylch ysgol Saesneg.

Nid eich ysgol ddalgylch yw eich ysgol agosaf yn awtomatig

Gwiriwch eich dalgylch cyn gwneud cais am le mewn ysgol oherwydd efallai na fyddwch o anghenraid yn gymwys i gael cymorth â thrafnidiaeth o’r cartref i’r ysgol.

Os byddwch yn penderfynu peidio â gwneud cais i’ch ysgol ddalgylch o gwbl, gallai hyn gynyddu'r siawns na fydd eich plentyn yn cael lle mewn ysgol o'ch dewis.

Yn unol â chynigion ad-drefnu ysgolion diweddar bydd dalgylchoedd cyfrwng Saesneg Ysgolion Cynradd Pilgwenlli a Maesglas yn newid o fis Medi 2023. Bydd y newidiadau hyn ar gael i'w gweld o 7 Gorffennaf 2022. Gwiriwch eich ysgol ddalgylch cyn gwneud datganiad cais.

Ysgol gynradd  

Ysgol uwchradd

Mae dalgylch yr ysgol uwchradd Gymraeg yn cwmpasu dinas Casnewydd yn ogystal â dalgylch Ysgol y Ffin yn Sir Fynwy. 


Cyswllt

E-bost:[email protected]