Derbyn i ddosbarth meithrin

Nursery class

Fel arfer bydd eich plentyn yn dechrau ei le meithrin yn y mis Medi yn dilyn ei drydydd pen-blwydd.  Fodd bynnag:

  • Mae plant sy’n cael eu geni rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr yn gymwys i ddechrau'n gynnar o'r mis Ionawr sy’n dilyn eu trydydd pen-blwydd, os oes lleoedd ar gael
  • Gellir cynnig lle meithrin dechrau cynnar i blant a anwyd rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth yn y mis Ebrill ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed, os oes lleoedd ar gael
  • Nid yw plant a anwyd rhwng 1 Ebrill a 31 Awst yn gymwys i gael dechrau’n gynnar.

Gallech ddewis lle addysg gyfrwng Gymraeg, addysg gyfrwng Saesneg neu addysg gyfrwng grefyddol ac nid oes angen fod yn rhugl yn y Gymraeg neu hyd yn oed siarad Cymraeg er mwyn i’ch plentyn mynychu addysg yn y Gymraeg.

Cynigir mynediad i ysgolion a dosbarthiadau meithrin cymunedol ar gyfer sesiwn hanner diwrnod, naill ai yn y bore neu’r prynhawn, ar bum niwrnod yr wythnos. Mae ysgolion yn disgwyl i ddisgyblion sy'n mynychu'r dosbarth meithrin fynd i’r holl sesiynau sydd ar gael iddyn nhw. 

Os nad ydych am i'ch plentyn fynychu pob un o'r pum sesiwn bob wythnos, efallai y byddai'n well gennych ddod o hyd i le mewn lleoliad preifat sy'n gallu cynnig trefniadau mwy hyblyg - cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Casnewydd am gyngor. 

Wrth wneud cais rydych chi’n ymgeisio am le ym mis Medi ac yn ein hysbysu y byddai gennych ddiddordeb mewn dechrau cynnar (lle Codi’n 3 oed) os oes lleoedd ar gael. I gael cynnig dechrau cynnar, rhaid i bob un o'r canlynol fod yn berthnasol:

  • Mae eich plentyn wedi ei eni rhwng 1 Medi a 31 Mawrth
  • Neilltuwyd lle meithrin ym mis Medi i chi
  • Mae dechrau cynnar ar gael yn y feithrinfa y neilltuwyd lle i chi ar gyfer mis Medi
  • Gwnaethoch gais am ddechrau cynnar wrth gyflwyno'ch cais

3 ffordd o wneud cais meithrinfa ar gyfer Medi 2024

  • Gwnewch gais ar-lein o: ceisiadau ar-lein bellach wedi cau.
  • Argraffwch ffurflen gais a'i phostio atom yn: Y Tîm Derbyn i Ysgolion, Cyngor Dinas Casnewydd, Y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd. NP20 4UR.
  • Ffoniwch 01633 656656 i ofyn am ffurflen gais a'i phostio atom yn y cyfeiriad uchod.
  • Dydd cau: 15 Medi 2023, 5pm

Sut mae lleoedd Medi 2024 wedi'u dyrannu (pdf)

Meithrin Medi 2023

Ar gyfer derbyniad i Feithrinfa y tu allan i'r rownd derbyniadau blynyddol gan gynnwys Meithrin 2023 bydd angen i chi wneud cais trosglwyddo yn ystod y flwyddyn.

Cyswllt

[email protected] am gwestiynau ynghylch lleoedd meithrin cymunedol

Cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Casnewydd i gael gwybodaeth am leoedd yn y sector preifat a/neu’r cynnig gofal plant.

Rhif Ffôn: (01633) 656656