Cyfuno Ysgolion Meithrin Kimberley a Fairoak

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymgynghori ar y cynnig i:

Gyfuno Ysgol Feithrin Kimberley ac Ysgol Feithrin Fairoak yn un ysgol ar safle presennol Ysgol Feithrin Fairoak a hynny o fis Medi 2021

Lawrlwythwch yr Adroddiad i'r Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau (pdf)

Lawrlwythwch yr Atodlen Penderfyniad cysylltiedig (pdf)

Lawrlwythwch yr Asesiad o Degwch ac Effaith ar Gydraddoldeb (pdf)

Ymgynghori

Daw’r ymgynghoriad i ben am hanner nos, nos Wener 11 Medi 2020

Mae’r broses ymgynghori yn gyfle i bobl ddysgu am y cynnig, gofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a gaiff eu cofnodi a’u crynhoi mewn adroddiad ymgynghori sydd wedi’i gyhoeddi isod.

Lawrlwythwch y ddogfen ymgynghori ffurfiol lawn (pdf)

Lawrlwythwch fersiwn gryno’r ddogfen ymgynghori (pdf) 

Ni chaiff unrhyw ymatebion negyddol a wneir yn ystod y cyfnod ymgynghori hwn eu hystyried yn wrthwynebiadau i’r cynnig ond yn hytrach yn sylwadau croes. 

Dim ond ar ôl cyhoeddi hysbysiad statudol, sef ail gam y cynnig, y gellir cofrestru gwrthwynebiadau.

Daw’r ymgynghoriad i ben am hanner nos, nos Wener 11 Medi 2020

Adroddiad ymgynghori

Lawrlwythwch yr Adroddiad Ymgynghori (pdf) sy’n crynhoi’r broses ymgynghori ac ymgysylltu, sylwadau a ddaeth i law ac ymateb y cyngor.

Cyhoeddi Hysbysiad Statudol

Mae’r Aelod Cabinet wedi ystyried yr holl safbwyntiau a fynegwyd a’r ymatebion a gafwyd yn ystod y broses ymgynghori ffurfiol ac mae wedi penderfynu bwrw ymlaen â’r cynnig i’r cam hysbysiad statudol.

Cyfnod Rhybudd Statudol 1 Rhagfyr 2020 – 6 Ionawr 2021

Mae’r cyfnod hysbysiad statudol yn galluogi pobl i fynegi eu barn i gefnogi neu wrthwynebu’r cynnig.

Lawrlwythwch yr Hysbysiad Statudol (pdf) 

Lawrlwythwch yr Adroddiad i’r Aelod Cabinet (pdf) 

Lawrlwythwch yr Asesiad Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb a ddiweddarwyd (pdf) 

Lawrlwytho’r Atodlen Benderfynu gysylltiedig (pdf) 

Penderfyniad Terfynol

Mae Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Addysg a Sgiliau wedi penderfynu gweithredu'r cynnig i gyfuno Ysgol Feithrin Fairoak ac Ysgol Feithrin Kimberley ar safle presennol Ysgol Feithrin Fairoak o fis Medi 2021.

Lawrlwythwch yr Adroddiad i'r Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau (pdf)
Lawrlwythwch yr Asesiad o'r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb diwygiedig (pdf)
Lawrlwythwch yr Amserlen Penderfyniadau gysylltiedig (pdf)
Lawrlwythwch y llythyr hysbysu penderfyniad terfynol (pdf)