Archwiliadau mewnfudo

Pan fyddwch yn gwneud cais i Asiantaeth Ffiniau'r DU am gliriad i gael mynediad i'r DU, efallai gofynnir i chi am asesiad annibynnol o'r man lle byddwch chi'n aros fel rhan o'r cais am fisa.

Bydd hyn yn cynnwys nifer yr ystafelloedd, cyflwr y llety arfaethedig a nifer y bobl fydd yn byw yno. 

Gall Cyngor Dinas Casnewydd asesu'r eiddo am ffi o £229. 90 + TAW a rhaid talu'r ffi cyn cynnal yr archwiliad.

Mae ailasesiad ar gyfer person ychwanegol (o fewn chwe mis) yn £117.70 + TAW.

Os bydd yr eiddo'n cael ei rentu, rhaid gofyn am ganiatâd y landlord cyn gwneud cais am archwiliad. 

Gwneud cais a thalu am archwiliad mewnfudo

Os oes angen ffurflen gais bapur arnoch ac na allwch wneud cais ar-lein, cysylltwch â [email protected].

Gallwch hefyd lawrlwytho ffurflen gais (word). 

Pan fyddwn wedi derbyn y taliad, byddwn yn cysylltu â chi o fewn 3 diwrnod gwaith i drefnu apwyntiad. 

Cynhelir yr archwiliad o fewn 7 diwrnod o drefnu'r apwyntiad a bydd llythyr yn cael ei anfon hyd at 7 diwrnod ar ôl cynnal yr archwiliad. 

Cysylltu

Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am dîm iechyd yr amgylchedd (tai).