Cofrestru marwolaeth

Mae’n rhaid i farwolaeth gael ei chofrestru gan y Cofrestrydd Genedigaethau a Marwolaethau yn yr ardal lle y digwyddodd y farwolaeth o fewn pum niwrnod, oni bai bod y Cofrestrydd yn dweud y gellir ymestyn y cyfnod.

O 25 Mawrth 2022 bydd yr holl gofrestriadau marwolaethau a marw-enedigaethau yn cael eu cynnal yn bersonol yn y Plasty drwy apwyntiad yn unig. Dylech gyrraedd ar yr amser a neilltuwyd.  Os byddwch yn cyrraedd yn hwyr efallai na fyddwn yn gallu eich gweld ac efallai y bydd yn rhaid aildrefnu eich apwyntiad.

Ffoniwch 01633 235510 i drefnu apwyntiad ar ôl i’r meddyg ardystio (meddyg teulu neu feddyg mewn ysbyty) roi’r dystysgrif feddygol o achos y farwolaeth. Ers mis Mawrth 2020, mae’r tystysgrif gan y meddyg wedi'i hanfon drwy e-bost i'r Swyddfa Gofrestru. Bydd hyn yn parhau i ddigwydd yn y rhan fwyaf o achosion, fodd bynnag, os yw'r meddyg teulu'n rhoi'r dystysgrif feddygol i chi, bydd angen i chi ddod a hi gyda chi pan fyddwch yn mynychu'r swyddfa gofrestru.

Crwner

Weithiau, bydd angen i’r Cofrestrydd roi gwybod i’r crwner am farwolaeth, a allai achosi oedi wrth gofrestru’r farwolaeth.

Sut i gofrestru marwolaeth

Dylai’r farwolaeth gael ei chofrestru gan berthynas i’r ymadawedig neu rywun a oedd yn bresennol ar adeg y farwolaeth, er enghraifft, uwch weinyddwr y sefydliad lle y digwyddodd y farwolaeth, neu gall y sawl sy’n rhoi cyfarwyddiadau i’r trefnwr angladdau gofrestru.

Nid yw bod yn ysgutor ewyllys ynddo’i hun yn rhoi’r hawl i chi gofrestru marwolaeth.

Dylech ganiatáu oddeutu 30 munud ar gyfer y cofrestriad, ac os bydd rhaid i’r Cofrestrydd gyfeirio’r farwolaeth at y crwner, efallai y bydd rhaid i chi ddod yn ôl eto.

Bydd angen i’r Cofrestrydd gael gwybod:

  • dyddiad a lleoliad y farwolaeth
  • enw llawn yr ymadawedig (a’i enw cyn priodi lle y bo’n briodol) 
  • dyddiad a lleoliad geni’r ymadawedig
  • galwedigaeth yr ymadawedig (hyd yn oed os oedd wedi ymddeol) ac enwau llawn a galwedigaeth ei ŵr/gwraig/partner sifil
  • cyfeiriad arferol yr ymadawedig 
  • p’un a oedd yr ymadawedig yn derbyn pensiwn o arian cyhoeddus neu bensiwn gwaith
  • p’un a oedd yr ymadawedig yn derbyn unrhyw fudd-daliadau o arian cyhoeddus

Dogfennau ategol

Dewch ag o leiaf un o’r dogfennau canlynol gyda chi pan fyddwch chi’n dod i gofrestru marwolaeth.

Mae angen dogfennau ar gyfer yr ymadawedig a’r sawl sy’n rhoi gwybod am y farwolaeth i ategu’r wybodaeth a ddelir ar y gofrestr ac i helpu i sicrhau cywirdeb y wybodaeth a gofnodir, a fydd yn lleihau’r angen am gywiriadau anghyfleus a chostus, o bosibl, yn y dyfodol.

Ar gyfer yr ymadawedig

  • pasbort
  • prawf cyfeiriad
  • cerdyn meddygol
  • tystysgrif geni
  • pob tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil
  • gweithred newid enw

Ar gyfer y sawl sy’n rhoi gwybod

  • pasbort
  • trwydded yrru
  • prawf cyfeiriad, e.e. bil cyfleustodau

DS: ni fydd absenoldeb y dogfennau ategol hyn yn atal yr apwyntiad rhag cael ei drefnu – gall y Cofrestrydd gofrestru’r farwolaeth o hyd.

Claddu ac amlosgi plant

Yng Nghymru, nid yw awdurdodau lleol yn codi unrhyw ffioedd am wasanaethau claddu neu amlosgi ar gyfer plant o dan 18 oed. Hefyd, mae gan deuluoedd yng Nghymru, sydd wedi cofrestru colli plentyn o dan 18 oed, yr hawl i gael £500 fel cyfraniad tuag at gostau’r angladd a chostau perthnasol eraill.

Bydd swyddfa Cofrestrydd yr awdurdod lleol yn trafod hyn gyda theuluoedd pan fyddant yn cofrestru’r golled a gallant roi rhagor o fanylion iddynt.

Lawrlwytho claddu ac amlosgi plant (pdf)

Tystysgrifau

Ar ôl i’r farwolaeth gael ei chofrestru, gall y Cofrestrydd roi’r ddogfen ganlynol i chi yn rhad ac am ddim:

  • Tystysgrif ar gyfer claddu neu amlosgi (a elwir yn ffurflen werdd) i chi fynd â hi at y trefnydd angladdau fel y gellir cynnal yr angladd. Os ydych eisoes yn gwybod pa drefnydd angladdau y byddwch yn ei ddefnyddio, gall y Cofrestrydd drefnu i e-bostio’r ffurflen werdd atynt ar eich rhan. Mewn rhai amgylchiadau cyhoeddir hwn gan y crwner.

Tystysgrifau marwolaeth safonol
Efallai y bydd angen i chi brynu rhai tystysgrifau marwolaeth hefyd. 

Mae tystysgrif marwolaeth yn gopi ardystiedig o’r cofnod ar y gofrestr marwolaethau a gallai fod ei hangen ar fanciau, cymdeithasau adeiladu, cwmnïau yswiriant, cyfreithwyr neu ar gyfer hawliadau pensiwn. 

Gallech ddymuno gofyn am sawl tystysgrif marwolaeth ar yr adeg cofrestru oherwydd bydd y pris yn cynyddu os bydd arnoch angen un yn ddiweddarach. 

Bydd y Cofrestrydd yn eich cynghori ynglŷn â pha fath a faint o dystysgrifau y gallai fod arnoch eu hangen.

Lawrlwythwch ac argraffwch ffurflen gais am Dystysgrif Marwolaeth (pdf).

Dywedwch Wrthym Unwaith

Pan fydd marwolaeth wedi cael ei chofrestru, gall y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith eich helpu i roi’r wybodaeth angenrheidiol i’r Adran Gwaith a Phensiynau, adrannau eraill y llywodraeth a gwasanaethau cyngor lleol.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae gwybodaeth am fudd-daliadau, profiant a chymorth gyda chostau angladd ar gael ar y wefan Directgov