Rhoi gwybod am rywbeth
Gallwch wneud cais, adrodd neu dalu am wasanaethau’r cyngor ar-lein ar adeg ac mewn lleoliad sy’n addas i chi.
Drwy ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein ac ap gallwch gysylltu â’r cyngor yn gyflym a chael ymateb cyflym.
Os byddwch yn creu cyfrif personol, byddwch yn gallu gweld eich holl ymholiadau ac ymatebion mewn un lle.
Fodd bynnag, gallwch dal adrodd, gofyn a thalu am wasanaethau heb greu cyfrif – trwy fewngofnodi fel gwestai.
Mae’r ap My Newport hefyd yn ei gwneud hi’n haws i ofyn am wasanaethau'r cyngor pan rydych allan. Gallwch ei lawrlwytho o siop apiau eich darparwr – chwiliwch am ‘My Newport’.
Diogelu ac amddiffyn a cham-drin
Os oes gennych bryderon am blentyn neu berson ifanc o dan 18 oed neu oedolyn mewn perygl, cysylltwch ar unwaith â'n swyddog dyletswydd gwasanaethau cymdeithasol ar (01633) 656656 neu'r tîm cyswllt brys ar 0800 328 4432 y tu allan i oriau swyddfa arferol, dydd Llun i ddydd Gwener 8.30-5pm.
Darllenwch am ddiogelu ac amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i Wefan Diogelu Gwent
Diogelu ac Amddiffyn yn ystod COVID-19: Mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol ar agor fel arfer a gallant ymateb i unrhyw bryderon. Darllen mwy