Newyddion

Ceisio barn rhentwyr preifat

Wedi ei bostio ar Monday 31st May 2021

Mae Cyngor Dinas Casnewydd a'r corff ymgyrchu Generation Rent wedi lansio prosiect newydd i wella ymgysylltiad â phobl sy'n rhentu eu cartrefi'n breifat.

Mae arolwg wedi agor heddiw sy'n ceisio cael gwell dealltwriaeth o'r heriau y mae rhentwyr preifat yn eu hwynebu yn ogystal â dysgu beth maen nhw'n ei ddeall am eu hawliau.

I ddechrau, bydd yn ceisio barn pobl sy'n byw yn wardiau Stow Hill, Victoria, Pillgwenlli a Llyswyry lle mae niferoedd uchel o gartrefi rhent preifat.

Er bod y rhan fwyaf o'r eiddo yn y ddinas mewn cyflwr da, mae nifer o landlordiaid yn torri'r gyfraith drwy rentu cartrefi sy'n is na'r safon neu sydd ddim yn addas i fyw ynddynt.

Yn ôl pôl piniwn gan Generation Rent ym mis Chwefror 2021 yn cynnwys 1,008 o rentwyr preifat yn y DU, roedd mwy na thraean o rentwyr preifat (37 y cant) wedi profi llwydni neu leithder, roedd 30 y cant wedi mynd heb wres neu ddŵr poeth ac roedd chwarter wedi dioddef gollyngiadau neu ddrafftiau.

Ni fu'r angen am gartref diogel ac ynni-effeithlon erioed mor bwysig.

Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, bydd y prosiect yn symud i gam dau gyda thrafodaethau a fforymau grŵp ffocws gyda rhentwyr preifat.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Mae angen i ni ddysgu mwy am y sector rhent preifat yn y ddinas, yn enwedig am amodau byw, a dyna pam mae'n hanfodol ein bod yn gwrando ar yr hyn sydd gan y rhentwyr i'w ddweud.

"Rwy'n falch bod y Cyngor wedi gallu ffurfio partneriaeth â Generation Rent ar gyfer y prosiect cyntaf o'i fath yng Nghasnewydd. Bydd canlyniadau'r gwaith yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o'r sector rhent preifat ac yn helpu i lunio strategaethau yn y dyfodol."

Dywedodd Alicia Kennedy, Cyfarwyddwr Generation Rent, "Edrychwn ymlaen at gychwyn ar y prosiect newydd hwn gyda chyngor Casnewydd, er bod llawer o rentwyr preifat yn wynebu nifer o heriau gyda'u cartrefi a'u tenantiaethau, dim ond nifer fach ohonynt sy'n gwybod bod eu Cyngor yno i'w cefnogi. Mae'n wych bod y Cyngor yn rhoi cyfle i rentwyr preifat ddweud eu dweud a llywio polisïau'r dyfodol".

Mae'r prosiect hwn yn rhan o brosiect cenedlaethol mwy a lansiwyd gan Generation Rent ag arian gan Ymddiriedolaeth Ddiwygio Joseph Rowntree. Mae'n gweithio gyda chwe chyngor ledled gwledydd y Deyrnas Unedig i ddatblygu modelau arfer gorau ar gyfer ymgysylltu â rhentwyr preifat.

I gymryd rhan yn yr arolwg ewch i http://www.newport.gov.uk/cy/Council-Democracy/Consultations/Consultations.aspx

More Information