Newyddion

Cyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei ddyfarnu ar gyfer canolfan hamdden

Wedi ei bostio ar Wednesday 24th March 2021

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi llwyddo i sicrhau £7 miliwn o gyllid Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru tuag at ganolfan hamdden a lles newydd yng nghanol y ddinas.

Ar safle glan yr afon, bydd y ganolfan bwrpasol newydd yn darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf i breswylwyr.

Bydd hefyd yn paratoi'r ffordd ar gyfer ailddatblygu safle presennol Canolfan Casnewydd i ddarparu cyfleuster addysg bellach newydd sbon i Goleg Gwent, a ddarperir o dan Raglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn: "Mae hwn yn brosiect cyffrous a fydd yn creu cyfleuster hamdden newydd gwych i Gasnewydd.

"Mae'n rhan o'n rhaglen Trawsnewid Trefi gwerth £110 miliwn, sy'n canolbwyntio ar ailddatblygu a gwella ein trefi a'n dinasoedd, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y datblygiad hwn yn mynd rhagddo yng Nghasnewydd."

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Mae hyn yn newyddion gwych a hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am y cyllid ac am gydnabod pwysigrwydd canolfan hamdden newydd i Gasnewydd a'i phreswylwyr.

"Gyda'i gilydd mae'r ganolfan a'r campws yn cynrychioli buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd, sy'n cael ei arwain gan y sector cyhoeddus yng nghanol y ddinas. Yn ogystal â gwella bywydau pobl yn y ddinas, bydd manteision economaidd ac adfywio ehangach i'r datblygiadau."

Cafwyd cymeradwyaeth eang i'r cynlluniau mewn ymgynghoriad cyhoeddus a'r mis diwethaf cytunodd y cabinet i fwrw ymlaen â'r ganolfan hamdden newydd yn ogystal â throsglwyddo safle Canolfan Casnewydd i Goleg Gwent.

Mae'r cynigion a dyluniadau terfynol bellach ar waith cyn cyflwyno'r cais cynllunio llawn a ddisgwylir yn ddiweddarach eleni.

Yn ogystal â chyllid Llywodraeth Cymru, telir cost £19.7 miliwn y prosiect gan y cyngor a chydag arbedion o'r cymhorthdal a delir i Gasnewydd Fyw.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.