Newyddion

Ysgol Gynradd Sant Andrew

Wedi ei bostio ar Monday 22nd March 2021

Bydd disgyblion a staff Ysgol Gynradd Sant Andrew yn symud i gartref dros dro newydd yng Nghanolfan Cyswllt Casnewydd Fyw ar  ddydd Llun 19 Ebrill.

Ni fu modd i'r plant ddychwelyd i'r adeilad cyfnod allweddol dau (iau) yn gynharach y mis hwn pan fu'n rhaid iddo gau oherwydd problem strwythurol sylweddol.

Ers 12 Mawrth, mae plant ac athrawon blwyddyn chwech wedi bod yn mynd i Ysgol Uwchradd Llyswyry tra bo'r 270 o ddisgyblion eraill wedi parhau i dderbyn gwersi ar-lein.

Teimlwyd ei bod yn hanfodol cadw'r tair blwyddyn hyn gyda'i gilydd felly mae gwaith sylweddol wedi'i wneud i ddod o hyd i adeilad priodol a allai ddarparu amgylchedd dysgu diogel.

Yn garedig iawn, cynigiodd Casnewydd Fyw y Ganolfan Gyswllt yn Mendalgief Road, yn amodol ar ganiatâd terfynol, a bydd gwaith yn cael ei wneud i baratoi'r adeilad i groesawu'r ysgol.

Mae hyn yn cynnwys uwchraddio'r system larwm i'r safonau gofynnol ar gyfer cynifer o blant oed cynradd. Mae gwaith hefyd yn cael ei wneud ar y tir i sicrhau bod ganddynt ardal chwarae awyr agored addas.

Darperir cludiant i fynd â'r plant o Sant Andrew i'r Ganolfan Gyswllt, ac yn ôl, bob dydd.

Mae'r rhieni'n cael y wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau. Mae'r cyngor a'r ysgol yn gwerthfawrogi eu hamynedd a'u dealltwriaeth mewn perthynas â sefyllfa ddigynsail na fyddai neb wedi'i dymuno.

Mae nifer fach o bobl ifanc a oedd yn defnyddio'r Ganolfan Gyswllt  ar gyfer rhaglenni addysg amgen wedi symud i Ganolfan Rivermead yn Nhŷ-du lle byddant yn parhau i dderbyn dysgu ac addysgu o ansawdd uchel. Mae ganddi rai nodweddion ychwanegol y gall y disgyblion hynny elwa arnynt.

Mae ymchwiliadau i'r materion strwythurol yn adeilad iau Sant Andrew a datrysiadau posibl yn parhau.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.