Newyddion

Maer yn camu allan dros ei elusen

Wedi ei bostio ar Tuesday 30th March 2021

Mae Maer Casnewydd yn ymgymryd â cherdded unigol a noddir o amgylch un o dirnodau hanesyddol Casnewydd er budd Alzheimer's Cymru.

Bydd y Cynghorydd Tom Suller yn gwneud cymaint o lapiau o Dŷ Tredegar ag y gall ar 7 Ebrill i godi arian i'w elusen ddewis.

"Nid yw llawer o'n gweithgareddau codi arian traddodiadol wedi gallu digwydd eleni felly penderfynais y byddai taith gerdded unigol a noddir yn ddelfrydol.

"Mae Alzheimer's Cymru yn agos iawn at fy nghalon am resymau personol ac mae'n elusen ardderchog sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau cymorth i sicrhau nad oes rhaid i bobl wynebu heriau'r salwch dinistriol hwn ar eu pennau eu hunain.

"Mae hefyd yn ymgyrchu dros newid ac yn ariannu ymchwil i ddod o hyd i wellhad. Mae Casnewydd yn ddinas sy'n ystyriol o ddementia yn swyddogol ac rwy'n gobeithio y bydd trigolion yn fy helpu i gefnogi'r elusen wych hon."

Y Cynghorydd Suller yw 388fed Maer Casnewydd a daw ei gyfnod yn y swydd i ben ym mis Mai.

E-bostiwch [email protected] am fanylion am sut i noddi'r Maer neu i gyfrannu at ei apêl elusennol.

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.