Newyddion

Sut effeithiodd un digwyddiad teuluol bach ar y gymuned ehangach

Wedi ei bostio ar Monday 29th March 2021

Cafodd grŵp bach o bobl a ymgasglodd yn gymdeithasol yn groes i reoliadau Covid effaith arwyddocaol ar fywydau pobl eraill yn ogystal â'r rhai a fynychodd y digwyddiad teuluol.

O'r 11 unigolyn oedd yno, cafodd naw prawf positif ac mae un arall yn aros am ei ganlyniadau.  Mae cysylltiadau i'r achosion hyn wedi cael prawf positif oddi ar hynny hefyd.

Daeth yr amgylchiadau i'r amlwg wrth olrhain cysylltiadau ar ôl i weithiwr cartref gofal, a oedd yn un o'r rhai yn y digwyddiad, brofi'n bositif am Covid 19.  O ganlyniad i brofion positif pellach, bu'n rhaid i blant mewn ysgol a lleoliad gofal plant hunanynysu am 10 diwrnod.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Truman, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Drwyddedu: "Rwy'n siŵr nad oedd gan y teulu hwn unrhyw fwriad i amharu ar fywydau pobl eraill nac achosi risg i iechyd unrhyw un ond mae'n dangos pa mor hawdd y gall y feirws ledaenu.

"Wrth i ni symud yn araf i lacio'r cyfyngiadau, mae'n rhaid i ni barhau i ddilyn yr holl ragofalon angenrheidiol i gadw ein hunain, ein hanwyliaid a'n cymunedau'n ddiogel.

"Bydd dilyn y rheolau, cynnal pellter cymdeithasol a dilyn gweithdrefnau hylendid da yn helpu i sicrhau y gallwn amddiffyn eraill, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed, a gwneud ein gorau i osgoi cyfyngiadau tynnach pellach neu hyd yn oed gyfnod cloi arall."

SOCIAL MEDIA

Efallai nad ydyn ni'n bwriadu effeithio ar eraill wrth blygu rheolau Covid, ond gall ein gweithredoedd arwain at sgil effeithiau eang iawn. Parhewch i ddilyn y rheolau i'ch cadw chi, eich anwyliaid a'r gymuned yn ddiogel.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.