Newyddion

Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru: argymhellion terfynol

Wedi ei bostio ar Monday 30th November 2020

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Hoffwn ddiolch i'r Comisiwn am eu harchwiliad manwl o dagfeydd ar yr M4 yng Nghasnewydd a'u hargymhellion ystyriol ac uchelgeisiol.

"Rydym yn dod yn fwyfwy ymwybodol o'r angen i newid arferion teithio i fynd i'r afael â llygredd a newid yn yr hinsawdd felly rwy'n croesawu'r cynigion i wella rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus. Edrychaf ymlaen at weld Casnewydd yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o gyflawni'r argymhellion hynny ac am i'n dinasyddion gymryd rhan fel rhan o'r broses.

"Rwy'n credu y bydd system drafnidiaeth gyhoeddus wych a fforddiadwy yn annog mwy o bobl i adael eu ceir gartref. Gadewch inni roi mwy o ddewis i bobl drwy ddarparu dewisiadau amgen gwell, yn hytrach na chosbi pobl.

"Addawyd i ni y byddai'r cyllid sylweddol oedd i'w ddefnyddio ar gyfer y ffordd liniaru yn cael ei ddargyfeirio i dalu am ddewisiadau eraill. Heb yr ymrwymiad hwnnw, ni fydd y bwriad da hwn yn cael ei wireddu a bydd hynny'n wastraff ofnadwy o amser ac ymdrech y comisiwn.

"Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd i gyflawni'r argymhellion hyn a galw ar Lywodraeth y DU i ariannu'n llawn y buddsoddiad gofynnol mewn seilwaith rheilffyrdd.

"Roedd y cyngor yn unfrydol o blaid adeiladu'r ffordd liniaru ond rwy'n derbyn y penderfyniad a wnaed i beidio bwrw ymlaen â'r prosiect a'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

"Ac mae'n hanfodol nad yw Casnewydd yn cael ei gadael ar ôl. Mae angen datrys y broblem tagfeydd ac mae argymhellion yr adroddiad yn rhoi ffordd ymlaen inni. Rhaid peidio ag ailadrodd yr addewid i ailagor y cyswllt rheilffordd rhwng Glynebwy a Chasnewydd yr ydym yn dal i aros amdano. Mae amser yn hanfodol yma ac mae'n rhaid i Gasnewydd fod wrth wraidd yr ateb."

Darllenwch yr adroddiad llawn: https://llyw.cymru/comisiwn-trafnidiaeth-de-ddwyrain-cymru-argymhellion-terfynol 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.