Cyngor Casnewydd yn gosod nodau ei adferiad strategol ger bron mewn ymateb i Covid-19
Wedi ei bostio ar Wednesday 24th June 2020
Cyfarfu Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd heddiw gan ganolbwyntio'n benodol ar sut mae'r Cyngor wedi ymateb i'r argyfwng iechyd presennol, a'r cynlluniau ar gyfer adferiad.
Dwedodd y Cynghorydd Jane Mudd - Arweinydd y Cyngor, “Mae argyfwng iechyd Covid19 wedi creu her sylweddol a digynsail i'r modd y mae Cyngor Dinas Casnewydd yn darparu ei wasanaethau. Rydym wedi canolbwyntio ar arbed bywyd, lleihau lledaeniad y feirws a chefnogi ein cymunedau a'r rhai sy'n agored i niwed y mae'r clefyd hwn wedi effeithio arnynt.
"Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae'r Cyngor wedi sicrhau bod gwasanaethau rheng flaen yn parhau i gael eu darparu i gymunedau ledled Casnewydd.
"Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i'n staff, ein partneriaid, ein trigolion ac i'n gwirfoddolwyr lleol ac arwyr di-glod – mae cymaint o bobl wedi mynd y tu hwnt er mwyn helpu – mae'r ymdrech wedi bod yn rhagorol."
Adleisiodd Aelodau'r Cabinet y teimladau hyn gan roi cydnabyddiaeth i lawer o wasanaethau cyhoeddus, cyrff, elusennau, grwpiau gwirfoddol ac unigolion.
Roedd rhai o'r meysydd gwaith a chymorth allweddol y tynnwyd sylw atynt yn cynnwys:
- Parhau i gasglu gwastraff ochr y ffordd
- Dosbarthwyd dros 1,000 o barseli bwyd
- Ysgolion yn cefnogi plant gweithwyr allweddol a phlant sy'n agored i niwed
- Lleoliadau Dechrau'n Deg yn gofalu am blant a chefnogi gweithwyr allweddol
- Gofal a chymorth parhaus a ddarperir gan wasanaethau cymdeithasol plant ac oedolion y Cyngor
- Dros £46 miliwn o gymorth busnes wedi ei roi i fusnesau cymwys
- Gweithio gyda phartneriaid i ddarparu llety saff a diogel i'r digartref
- Gweithredu canolfan gyswllt rithwir gan ateb dros 43,000 o alwadau
Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, mae ystadegau wedi dangos arwyddion calonogol fod achosion Covid-19 yn arafu ond mae'r Cyngor yn llwyr ymwybodol y gallai cyfnodau brig barhau i ddigwydd yn y dyfodol. Yn ystod y cyfnod hwn, bu rhywfaint o lacio hefyd ar y cyfyngiadau ac ailsefydlu gwasanaethau'r Cyngor megis canolfan ailgylchu gwastraff y cartref, sefydlu gwasanaeth tracio ca olrhain a pharatoi ar gyfer ailagor ysgolion yn ddiogel.
Ychwanegodd y Cynghorydd Mudd: "Rydym bellach wedi cyrraedd sefyllfa lle mae gwasanaethau pellach y Cyngor yn adfer i ffordd 'normal newydd’ o weithio a rhaid i ni ganolbwyntio o'r newydd i sicrhau nad yw'r gwaith da hwn yn cael ei ddadwneud, ein bod yn cefnogi ein heconomi i ailadeiladu a’n bod yn canolbwyntio ar y cymunedau sydd wedi eu heffeithio fwyaf gan Covid-19.
"Bydd ein nodau adfer strategol yn rhoi ffocws i Aelodau, staff, partneriaid a'n cymunedau er mwyn deall ein blaenoriaethau ar gyfer hyn y flwyddyn nesaf. Nid ydynt yn disodli, ond yn hytrach yn cefnogi cynllun corfforaethol y Cyngor, gan adeiladu ar a sicrhau bod y ffocws a'r ymateb yn briodol yn dilyn yr amser digyffelyb hwn."
Mae'r pedwar nod adfer strategol yn nodi'r heriau ychwanegol y mae Covid-19 wedi'u cyflwyno ac yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol hyn, gan gefnogi:
- addysg a chyflogaeth
- yr amgylchedd a’r economi
- iechyd a llesiant
- anghenion dinasyddion wedi Covid-19
"Rydym yn cydnabod llawer o faterion gan gynnwys colli cyflogaeth, yr effaith ar fusnes, a chynnydd, cyflawniad a llesiant dysgwyr prif ffrwd a’r rhai sy’n agored i niwed. Bydd y nodau strategol hyn yn ein helpu i ddeall ac ymateb i'r effaith ar nodau economaidd ac amgylcheddol y ddinas ac i alluogi Casnewydd i ffynnu eto.
"Byddwn yn hyrwyddo ac yn diogelu iechyd a llesiant ein pobl, yn diogelu'r rhai sydd fwyaf agored i niwed, ac yn meithrin cymunedau cadarn a chryf. Byddwn yn rhoi yr adnoddau a'r cymorth i bobl sydd eu hangen arnynt i symud allan o'r argyfwng, gan ystyried yn benodol yr effaith y mae Covid-19 wedi'i chael ar ein cymunedau lleiafrifol ac ymylol." meddai’r Cynghorydd Mudd.