Newyddion

Gwaith wedi'i gwblhau ar lwybr teithio llesol yng Nghoed Melyn

Wedi ei bostio ar Wednesday 30th December 2020
20201217_164920

Mae gwaith wedi'i gwblhau'n ddiweddar ar greu llwybr teithio llesol newydd ym Mharc Coed Melyn.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi gwneud gwelliannau yn y parc yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr am gyflwr y llwybr troed presennol.

Yn llwybr cerdded poblogaidd eisoes, nodwyd  hefyd fod hwn yn llwybr seiclo oddi ar y ffordd posibl o Risca Road, drwy’r man agored i lawr i Rodfa’r Gorllewin.

Sicrhawyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i wneud gwelliannau er mwyn creu llwybr Teithio Llesol yn cynnwys arwyneb lletach, mwy gwastad sy’n hygyrch i bawb.

Mae’r arwyneb newydd hefyd yn cynnwys nodweddion arbennig i ddiogelu gwreiddiau’r coed gerllaw.

Dyluniwyd y goleuadau isel a osodwyd ar y llwybr gyda'r amgylchedd mewn cof ac i leihau'r effeithiau ar fywyd gwyllt.

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, dirprwy arweinydd y cyngor, "Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu creu llwybr teithio llesol arall i drigolion Casnewydd.

"Roeddem wedi cael adborth adeiladol iawn ar gyflwr y llwybr troed presennol drwy'r parc yng Nghoed Melyn, ac rydym wedi gweithio nid yn unig i fynd i’r afael â’r pryderon hynny, ond hefyd i wella'r llwybr drwy ei wneud yn fwy hygyrch i bob defnyddiwr.

“Rydym wedi ymrwymo fel cyngor i gynyddu nifer y llwybrau teithio llesol ledled y ddinas, a byddwn yn ymgynghori â thrigolion, busnesau a grwpiau cymunedol yn y flwyddyn newydd ar sut a ble y gallwn wneud gwelliannau i'r rhwydwaith."                                  

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.