Newyddion

Cynigion cyffrous ar gyfer cyfleusterau hamdden a dysgu newydd

Wedi ei bostio ar Wednesday 16th December 2020
ARTIST IMPRESSION of Coleg Gwent city centre campus

Mae cabinet Cyngor Dinas Casnewydd yn ceisio barn y cyhoedd ar gynllun i drawsnewid cyfleusterau hamdden yng nghanol y ddinas.

Byddai canolfan hamdden a lles newydd arfaethedig yn cynnwys pwll, stiwdio ffitrwydd ac ardaloedd iechyd a lles yn ogystal â chyfleusterau newid modern a chaffi.

Bwriedir rhoi'r ganolfan newydd o'r radd flaenaf ar safle tir llwyd allweddol ar lan yr afon

Byddai hyn yn galluogi Coleg Gwent i ddefnyddio safle gwag Canolfan Casnewydd ar gyfer campws addysg bellach gwerth £90m gan greu Ardal Wybodaeth Casnewydd a dod â channoedd o fyfyrwyr a staff i ganol y ddinas

Bydd y ganolfan hamdden newydd yn cael ei hadeiladu at safonau rhagorol BREEAM, gyda chynaliadwyedd a diogelu at y dyfodol yn egwyddorion craidd. Ynghyd â'r campws newydd, gwelliannau i Usk Way a'r cysylltedd teithio llesol, bydd hyn yn creu lle o ansawdd uchel a man ysgyfaint gwyrdd.

Mae'r Cabinet wedi cytuno i ymgynghori â thrigolion a rhanddeiliaid i ddarganfod beth yw eu barn ar y cynigion a pha gyfleusterau hamdden yr hoffent eu gweld mewn canolfan newydd.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Mae gennym gyfle gwych i greu canolfan hamdden newydd yng nghanol y ddinas. Fel cabinet, mae’r posibilrwydd o allu darparu cyfleusterau newydd gwych, mewn lleoliad hygyrch, i ddinasyddion Casnewydd yn syniad cyffrous iawn gennym.

"Ar ben hynny, byddai'n golygu y gallai Coleg Gwent wireddu ei uchelgais ar gyfer campws canol dinas i roi amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf i'n pobl ifanc.

"Bydd hyn yn fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn cyrff iach a meddyliau iach. Mae'n sicr y bydd canolfan hamdden newydd yn denu mwy o ddefnyddwyr a bydd y campws hefyd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr ac felly'n rhoi hwb i economi canol y ddinas ac yn cefnogi busnesau lleol.

"Y cam nesaf, cyn i ni wneud penderfyniad, yw clywed gan ein trigolion. Rydym am gael gwybod eich barn am y cynigion a pha gyfleusterau hamdden fyddai bwysicaf gennych chi. Peidiwch â cholli'r cyfle i fod yn rhan o'r hyn sy'n argoeli’n bennod newydd wych i'r ddinas a'i thrigolion."

Ychwanegodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw: "Ry’n ni’n llawn cyffro am y posibilrwydd o ganolfan hamdden newydd yn y ddinas. Mae hyn yn rhoi cyfle gwych i'n cwsmeriaid a'r gymuned ehangach gael mynediad at fwy o gyfleusterau hamdden gwell yng nghanol y ddinas.

"Bydd hyn yn caniatáu i'r tîm yn Casnewydd Fyw gefnogi mwy o bobl Casnewydd gyda'u lles corfforol a meddyliol tra'n cael hwyl, ac i barhau i ysbrydoli dinas iach a gweithgar. Byddwn yn annog ein holl gwsmeriaid a thrigolion yn y ddinas i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad er mwyn helpu i lunio'r datblygiad newydd cyffrous hwn."

Mae arolygon wedi cadarnhau bod y pwll yng Nghanolfan Casnewydd, sy’n 35 oed, y tu hwnt i achub.

Argymhellir bod y safle'n cael ei drosglwyddo i Goleg Gwent ar gyfer campws newydd yng nghanol y ddinas.

Dywedodd Guy Lacey, pennaeth Coleg Gwent:  "Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i greu cartref i'r Coleg yng nghanol y ddinas, yn ogystal â darparu cyfleusterau hamdden newydd sbon. Bydd yn ein galluogi i ddarparu addysg a hyfforddiant rhagorol, mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf, i holl bobl a busnesau Casnewydd."

Mae cais am gyllid rhannol tuag at greu canolfan hamdden a lles newydd yn cael ei wneud i Lywodraeth Cymru. Daw gweddill y gost o ostyngiad y cytunwyd arno yng nghymhorthdal Casnewydd Fyw a chronfeydd wrth gefn y cyngor.

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar 17 Rhagfyr ac yn para tan 29 Ionawr. I gymryd rhan ewch i www.newport.gov.uk/haveyoursay

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.