Newyddion

Atyniadau ymwelwyr i agor am ddim

Wedi ei bostio ar Thursday 20th September 2018

Bydd Pont Gludo Casnewydd yn agor am ddim i’r cyhoedd Ddydd Sul 23 Medi

Bydd atyniadau ymwelwyr yn cymryd rhan yn y digwyddiad blynyddol Drysau Agored a drefnir gan Cadw sy'n cynnig mynediad am ddim i'r cyhoedd ar ddyddiau penodol.

Bydd Pont Gludo Casnewydd, a lwyddodd i ddenu grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) o £1filiwn yn gynharach eleni tuag at atgyweirio a cynnal a chadw’r strwythur eiconig, yn agor am ddim i’r cyhoedd Ddydd Sul 23 Medi.

Gall ymwelwyr fynd ar drip ar y gondola a chroesi dros dop y bont o 10am ymlaen, gyda’r mynediad olaf i’r lefelau uwch am 4pm, gan fod y bont yn cau am 5pm.

Bydd aelodau o Gyfeillion Pont Gludo Casnewydd wrth law i annog y cyhoedd i gymryd rhan mewn ymgyrch godi arian torfol er mwyn codi £100,000.

Mae angen codi’r arian er mwyn dangos i CDL bod digon o gefnogaeth leol i gynnig am ail rownd o ariannu gan CDL ac i ddenu cyllid ychwanegol ar ffurf grantiau.

Mae Gwlypdiroedd Casnewydd hefyd yn cymryd rhan yn nigwyddiad cadw ar Ddydd Sadwrn 29 medi gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau wedi eu trefnu ar gyfer y diwrnod.

Mae’r safle yn eiddo ac yn cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â RSPB Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd ac eraill er budd bywyd gwyllt a phobl.

Bydd Baddonau Caerllion, yr Amffitheatr a’r Baracs hefyd ar agor ar gyfer teithiau ar ddydd Sadwrn a dydd Sul, 29 a 30 Medi fel rhan o’r project Diwrnod Agored. Bydd teithiau dyddiol am 11am, 1pm a 3pm yn dechrau ym Maddonau’r Gaer.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://cadw.gov.wales/visit/whats-on/find-a-cadw-event

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.