DDiwrnod Gwybodaeth 50+
Wedi ei bostio ar Tuesday 18th September 2018
Bydd help a chyngor i bobl 50+ oed ar gael yn y diwrnod gwybodaeth blynyddol sy’n cael ei gynnal yng Nghanolfan Casnewydd ar ddydd Sadwrn, 29 Medi.
Mae’r digwyddiad, sydd â thros 100 stondin yn rhoi gwybodaeth am ystod eang o bynciau, yn cael ei drefnu mewn partneriaeth â Fforwm 50+ Casnewydd.
Mae mynediad am ddim a gall ymwelwyr gael gwybodaeth am iechyd a lles, diddordebau hamdden, cyllid, tai a chymorth o 10am tan 3pm.