Newyddion

Casgliadau Sbwriel Dros Wyl Banc y Gwanwyn

Wedi ei bostio ar Wednesday 23rd May 2018
bin lorry

Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn casglu sbwriel a gwastraff gardd ar y diwrnodau arferol yn ystod wythnos Gŵyl Banc y Gwanwyn.

Mae hyn yn golygu y bydd casgliadau ar 7 Mai yn dilyn trefn wythnos arferol.

Bydd Wastesavers hefyd yn casglu deunyddiau ailgylchu wrth ymyl y ffordd ar ddiwrnodau arferol yr wythnos honno, felly cofiwch roi eich bocsys a'ch bagiau coch allan.

Mae'n golygu y bydd timau sbwriel y cyngor a Wastesavers yn gweithio ar ddydd Llun 7 Mai i'r cartrefi hynny sydd fel arfer yn cael casgliadau ar ddydd Llun ac ati drwy gydol yr wythnos.

Bydd hyn yn golygu y bydd casgliadau dydd Gwener yn cael eu gwneud fel arfer yn hytrach nag ar ddydd Sadwrn fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol ar ôl gŵyl banc.

Bydd yr un amserlen yn gymwys ar 28 Mai ac ar gyfer Gŵyl Bank yr haf ddiwedd mis Awst.

Gall trigolion sydd am gadarnhau eu casgliadau nodi eu cod post mewn chwiliad ar ein gwefan er mwyn cael y wybodaeth. Ewch i www.newport.gov.uk/recycling

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.