Newyddion

Timau terfynol wedi'u cadarnhau ar gyfer Taith Prydain Ovo Energy 2018

Wedi ei bostio ar Tuesday 17th July 2018
ToB_2018_Team_Graphic

Mae'r rhestr derfynol o dimau ar gyfer Taith Prydain OVO Energy, a ddaw i Gasnewydd ddydd Sul 2 Medi, wedi'i chadarnhau, gan gynnwys enwi'r pedwar tîm UCI Continental Prydeinig sydd wedi cymhwyso i gymryd rhan yn ras feicio mwyaf nodedig Prydain.

Bydd JLT Condor, ONE Pro Cycling, Madison Genesis a Canyon Eisberg yn ymuno â'r rhestr o dimau a beicwyr gorau'r byd a fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad wyth niwrnod a fydd yn dechrau yn Sir Gâr.

"Wedi ymdrechu'n ddiwyd trwy gydol y tymor i gymhwyso ar gyfer Taith Prydain OVO Energy 2018, rwyf wrth fy modd i groesawu Canyon Eisberg, JLT Condor, Madison Genesis ac ONE Pro Cycling yn ôl i'r ras," meddai cyfarwyddwr y ras, Mick Bennett.

"Mae'r pedwar tîm hyn yn llwyr haeddu eu lle yn ras feicio fwyaf nodedig y DU ac, fel mae rhywrai megis Harry Tanfield a Connor Swift eisoes wedi dangos y tymor hwn, mae ein timau cartref yn ddigon medrus i herio timau mwyaf a gorau'r byd. Does dim amheuaeth gennyf y byddant yng nghanol y cyffro yn ystod pob un o'r wyth niwrnod ym mis Medi."

Hefyd wedi'i gadarnhau ar gyfer y ras mae Team Sunweb a fydd yn un o 11 tîm o Daith y Byd yr UCI i rasio ym Mhrydain ym mis Medi. Y tro diwethaf i'r garfan Almaenaidd ymddangos yn y ras oedd 2016 pan orffennodd Tom Dumoulin yn drydydd yn gyffredinol.

Bydd cyfanswm o 13 o dimau sy'n cystadlu ar hyn o bryd yn y Tour de France yn rasio yn Nhaith Prydain OVO Energy, gan gynnwys pob tîm o Daith y Byd yr UCI yn ogystal â charfannau UCI ProContinental, Direct Energie a Wanty-Groupe Gobert.

Yn ogystal bydd dau dîm UCI ProContinental arall yn cymryd rhan: Aqua Blue Sport o Iwerddon a fydd yn cymryd rhan yn y ras am y tro cyntaf, a Bardiani-CSF o'r Eidal sydd wedi ennill dau gam yn ras fwyaf nodedig Prydain yn y gorffennol.

Bydd tîm cenedlaethol Prydain Fawr yn cystadlu unwaith eto yn y digwyddiad, gan ddangos holl dalentau gorau'r genhedlaeth nesaf o sêr beicio Prydain.

Meddai Julie Harrington, Prif Weithredwr British Cycling, "Gyda 11 o dimau Taith y Byd yr UCI wedi'u cadarnhau ar gyfer y ras, dyma gyfle aur i'n beicwyr ifanc gystadlu fel tîm cenedlaethol yn erbyn rhai o feicwyr gorau'r byd.

"Mae safon y timau eleni'n amlygu pwysigrwydd Taith Prydain yn y calendr rasio ac rydym yn falch y bydd rhai o athletwyr mwyaf adnabyddus ym myd beicio yn cystadlu unwaith eto ar ffyrdd Prydain.

"Rydym yn rhagweld y bydd y cyffro cynyddol am y digwyddiad hwn yn helpu i annog y genhedlaeth nesaf o feicwyr a gobeithiwn y caiff pobl eu hysbrydoli gan y ras i neidio ar eu beiciau."

 

Digwyddiad beicio ffordd pwysicaf British Cycling yw Taith Prydain OVO Energy, gan roi'r cyfle i gefnogwyr weld timau a beicwyr gorau'r byd yn cystadlu ar garreg eu drws rhwng dydd Sul 2 a dydd Sul 9 Medi 2018.

Bydd Casnewydd yn cynnal diwedd y cymal cyntaf ar 2 Medi. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.newport.gov.uk/events

 

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.