Buddion ac amodau

Improving-Peoples-Lives-online-banner

Mae’r buddion a gynigir i gyflogeion Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnwys: 

Cyflog byw

Rydym wedi dewis talu’r cyflog byw yn wirfoddol, sef cyfradd fesul awr sy’n cael ei gosod yn annibynnol a’i diweddaru’n flynyddol, oherwydd ein bod ni’n credu bod hynny’n beth da i bawb ohonom yng Nghasnewydd. 

Mae’r cyflog byw presennol yn cael ei gymhwyso bob mis Ebrill ac, os yw’n berthnasol, fe’i telir fel ychwanegiad.

Gwyliau blynyddol

Rydym yn cynnig gwyliau blynyddol hael yn ogystal â’r wyth gŵyl banc statudol y flwyddyn.

Cyfrifir gwyliau blynyddol yn unol â hyd eich gwasanaeth:

  • hyd at bum mlynedd o wasanaeth llywodraeth leol parhaus: 26 diwrnod
  • rhwng pum a deng mlynedd o wasanaeth llywodraeth leol parhaus: 30 diwrnod
  • dros ddeng mlynedd o wasanaeth llywodraeth leol parhaus: 33 diwrnod
  • mae gweithwyr rhan-amser yn cael gwyliau blynyddol ar sail pro rata 

Mae’r opsiwn i brynu hyd at wythnos o wyliau blynyddol ychwanegol hefyd ar gael.

Gwasanaeth parhaus

Mae’r cyfnod gwasanaeth parhaus ar gyfer hawliau cyflogaeth statudol yn cychwyn o ddyddiad dechrau eich cyflogaeth gyda ni. 

Os oes gan gyflogai wasanaeth parhaus blaenorol gyda sefydliad sy’n ddarostyngedig i Orchymyn Addasu Taliadau Dileu Swydd (Parhad Cyflogaeth mewn Llywodraeth Leol) 1999, bydd hyn yn cael ei gynnwys wrth gyfrifo’r hawl i gael:

  • taliad dileu swydd
  • gwyliau blynyddol
  • cynllun salwch galwedigaethol
  • cynllun mamolaeth galwedigaethol
  • cynllun cymorth mamolaeth
  • absenoldeb mabwysiadu

Heblaw am hawl dileu swydd, bydd hyn hefyd yn berthnasol os oedd swydd y cyflogai wedi cael ei dileu, cyn iddo ymuno â’r cyngor, mewn sefydliad sy’n ddarostyngedig i’r Gorchymyn uchod o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf.

Cynllun pensiwn

Byddwn yn cofrestru pob cyflogai newydd ar un o ddau gynllun pensiwn yn awtomatig:

Bydd y cynllun pensiwn yn eich helpu i gynilo ar gyfer eich ymddeoliad ac mae’n darparu buddion fel yswiriant marwolaeth mewn gwasanaeth, pensiwn priod ac ymddeoliad oherwydd iechyd gwael – byddwn hefyd yn cyfrannu at eich pensiwn.

Mae gennych yr hawl i optio allan o’r cynllun pensiwn os nad ydych eisiau bod yn aelod ohono. 

Cynllun salwch galwedigaethol

Mae gennym gynllun absenoldeb oherwydd salwch ac rydym yn talu tâl salwch galwedigaethol yn ogystal â thâl salwch statudol.

Bydd eich hawl wedi’i seilio ar hyd eich gwasanaeth:

  • blwyddyn 1af o wasanaeth = un mis ar gyflog llawn ac (ar ôl cwblhau pedwar mis o wasanaeth), dau fis ar hanner cyflog
  • 2il flwyddyn o wasanaeth = dau fis ar gyflog llawn a dau fis ar hanner cyflog
  • 3edd flwyddyn o wasanaeth = pedwar mis ar gyflog llawn a phedwar mis ar hanner cyflog
  • 4edd a 5ed flwyddyn o wasanaeth = pum mis ar gyflog llawn a phum mis ar hanner cyflog
  • ar ôl pum mlynedd o wasanaeth = chwe mis ar gyflog llawn a chwe mis ar hanner cyflog

Absenoldeb mamolaeth

26 wythnos o dâl mamolaeth yn ogystal â 26 wythnos arall o absenoldeb heb dâl ac amser i fynd i apwyntiadau clinig cyn geni.

Rydym yn cynnig 26 wythnos o dâl mamolaeth yn ogystal â 26 wythnos arall o absenoldeb heb dâl ac amser i fynd i apwyntiadau clinig cyn geni – gweler ein Polisi Ystyriol o Deuluoedd (pdf).

Rydym hefyd yn cynnig absenoldeb rhiant a rennir (pdf).

Absenoldeb mabwysiadu

Mae absenoldeb a thaliadau wedi’u hamlinellu yn y cynllun mamolaeth yn ein Polisi Ystyriol o Deuluoedd(pdf). 

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Mae polisïau ategol yn cynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth, amser i ffwrdd ar gyfer dibynyddion, lleihau oriau gweithio’n wirfoddol, hawl i ofyn am gael gweithio’n hyblyg, absenoldeb rhiant a rhannu swydd.

Oriau gweithio hyblyg

Rydym yn gweithredu cynllun oriau gweithio hyblyg yn nifer o’n swyddfeydd i alluogi cyflogeion i ddechrau a gorffen gwaith ar adeg sy’n gweddu iddyn nhw, ar yr amod bod anghenion y gwasanaeth yn cael eu bodloni a’u bod yn gweithio’r oriau a bennir yn eu contract.

Mae angen cymeradwyaeth rheolwyr cyn cymryd absenoldeb gweithio hyblyg.

Fy Adolygiad

Mae’r broses Fy Adolygiad yn helpu i gysylltu nodau corfforaethol â pherfformiad unigol trwy egwyddorion ac amcanion allweddol y cyngor.

Mae’r cynllun yn berthnasol i’n holl gyflogeion sydd â chwe mis neu fwy o wasanaeth, heblaw am athrawon, sy’n dilyn cynllun ar wahân.

Hyfforddiant a datblygiad

Mae hyfforddiant a datblygiad cyflogeion yn rhan o ymrwymiadau’r cyngor i welliant parhaus. 

Buddion i gyflogeion

Rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddion i gyflogeion, gan gynnwys:

  • cerdyn gostyngiad – gallwch gael gostyngiad mewn siopau ledled y Deyrnas Unedig
  • Fy Ngwobrwyon yng Nghyngor Dinas Casnewydd – ein gwefan buddion sy’n cynnwys gostyngiadau a thalebau ar-lein
  • talebau gofal plant (aberthu cyflog) – ffordd dreth-effeithlon o dalu am eich gofal plant
  • beicio i’r gwaith (aberthu cyflog) – gallwch arbed arian ar feic newydd ac ategolion
  • cynllun prydlesu car (aberthu cyflog) – car newydd am symiau misol sefydlog
  • cyfleusterau hamdden gostyngol – aelodaeth gorfforaethol o Newport Live, gan gynnwys defnydd diderfyn o ystafelloedd ffitrwydd, pyllau nofio, dosbarthiadau ffitrwydd a’r ystafell iechyd, yn ogystal â chynllun hyfforddi personol 

Bydd meini prawf cymhwysedd yn berthnasol ac mae’r telerau a’r amodau ar gael ar gais. 

Teithio a chynhaliaeth

Ceisiwn sicrhau nad yw unrhyw gyflogai ar ei golled yn ariannol tra’i fod yn ymgymryd â dyletswyddau yn rhywle ar wahân i’w weithle arferol, ac rydym yn talu costau teithio a chynhaliaeth (pdf).

Os oes rhaid i gyflogai adael ei ganolfan sefydlog arferol i ymgymryd â dyletswyddau, gall hawlio costau teithio.

Llesiant

Mae gennym wobr arian y Safon Iechyd Corfforaethol, sef marc ansawdd Llywodraeth Cymru ar gyfer hybu iechyd yn y gweithle yng Nghymru, i ddangos ein hymrwymiad i iechyd a llesiant yn y sefydliad.

Rydym yn cynnig rhaglen gymorth i gyflogeion sy’n eu galluogi i gael cyngor a chymorth cyfrinachol yn rhad ac am ddim, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Gellir rhoi gwybodaeth a chymorth ynglŷn â materion teuluol, personol, dyledion neu faterion yn ymwneud â’r gweithle dros y ffôn neu ar-lein.

Mae gwasanaeth cwnsela ar gael hefyd.

Cynigiwn brofion llygad rhad ac am ddim gan ystod o optegwyr i unrhyw gyflogai sy’n defnyddio cyfarpar sgrîn arddangos yn helaeth wrth eu gwaith arferol.

Mae cyflogeion yn gallu mynd i glinigau iechyd un i un, sydd ar gael yn rhad ac am ddim, i asesu a thrafod arferion ffordd o fyw, statws pwysau, pwysedd gwaed, a lefelau colesterol a glwcos yn y gwaed.

Rydym hefyd yn cynnig cyngor a chymorth ynglŷn â rhoi’r gorau i ysmygu, bwyta’n iach a gweithgarwch corfforol, ac yn mynd ati’n weithredol i hybu iechyd a llesiant yn y sefydliad.