Cyllideb 2021-2022
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynllunio ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod a sut y bydd yn darparu gwasanaethau allweddol o fewn y gyllideb sydd ar gael.
Cyfarfu'r Cabinet ar 8 Ionawr 2021 i ystyried ystod o gynigion a fydd yn caniatáu i'r cyngor wneud yr arbedion gofynnol yn 2021-22 a'r blynyddoedd dilynol.
Gweld yr agenda
Cynigion cyllideb
Mae Cabinet y cyngor wedi ystyried cyllideb ddrafft ar gyfer 2020/21 a sut y gellid darparu gwasanaethau o fewn yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael. Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn rhedeg tan 12 Chwefror 2021.
Darllenwch fanylion llawn y cynigion ymgynghori (pdf) a chwblhewch ein harolwg ymgynghori isod.
Cwblhau'r arolwg ymgynghori
Gan fod y cyngor wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, mae penderfyniadau pob aelod o'r cabinet a phob pennaeth gwasanaeth ar gael i'w gweld, er nad ydynt yn destun yr ymgynghoriad llawn. Bydd yr holl ymatebion yn cael eu hystyried gan y Cabinet cyn eu cyfarfod ym mis Chwefror 2021.
Gweld penderfyniadau cynrychiolwyr (pdf)
Mae 2020 yn flwyddyn heriol iawn – nid yn unig y mae pandemig Covid-19 wedi effeithio ar ddarparu 'busnes fel arfer', mae wedi effeithio ymhellach ar y galw ar wasanaethau ac wedi golygu bod y cyngor wedi gorfod newid y ffordd mae'n gweithredu.
 |
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynllunio gwariant y pedair blynedd nesaf ar y cannoedd o wasanaethau y mae’n eu darparu yn erbyn cefndir o alwadau cynyddol heriol.
Derbyniodd y Cyngor setliad cyllideb ddrafft cadarnhaol ym mis Rhagfyr. Dyma faint o arian y disgwyliwn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru. Y cynnydd drafft ar gyfer Casnewydd yn 2021-22 yw 5.6% - £12.7m mewn termau ariannol a’r cynnydd uchaf yng Nghymru.
Mae dros dri chwarter (76 y cant) o gyllideb y Cyngor wedi ei ariannu â grant gan Lywodraeth Cymru.
|
 |
Ariennir mwy na thri chwarter (76 y cant) o gyllideb y cyngor gan grant gan Lywodraeth Cymru.
Ariennir y gweddill gan y dreth gyngor. Am bob toriad o un y cant yng ngrant Llywodraeth Cymru, byddai'n rhaid i'r dreth gyngor gynyddu bedwar y cant i gynnal yr un lefelau gwariant.
|
|
Mae’r galw cynyddol a wynebir gan y Cyngor yn cynnwys:
 |
Poblogaeth sy’n heneiddio sy’n fwy dibynnol ar ofal; sy’n gofyn am gymorth mwy cymhleth a drud i helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain.
Mae’r costau gofal wedi codi o £38 miliwn yn 2017/18 i amcangyfrif o £45 miliwn eleni.
|
 |
Cynnydd o 55 y cant yn nifer y plant mewn trefniadau maethu annibynnol ers 2017/18. |
 |
Mae 1,295 mwy o ddisgyblion na thair blynedd yn ôl, a 68 mwy o ddisgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol a thair ysgol yn ychwanegol i’w cynnal. |
Fel cynghorau ledled y wlad, mae Casnewydd wedi bod yn delio ag effaith llymder a chyllidebau llai ers sawl blwyddyn.
Mae'r cyngor wedi cymryd camau sylweddol fel y gall barhau i ddarparu gwasanaethau rheng flaen tra bod treth dalwyr cyngor y ddinas ymhlith y biliau isaf yng Nghymru.
 |
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r cyngor wedi arbed cyfanswm o £35 miliwn. |
 |
Mae gweithlu’r Cyngor wedi lleihau gan bron i chwarter dros y pum mlynedd diwethaf |
Er gwaethaf hyn, mae'n debygol y bydd yn rhaid gwneud mwy o arbedion ar gyfer y dyfodol.
 |
Amcangyfrifir y bydd yn rhaid i'r cyngor arbed o leiaf £10 miliwn dros y tair blynedd nesaf.
|
TRA130583