LHDTC+

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn hyrwyddo hawliau LHDTC+ (lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol).

Cwblhewch yr arolwg gofal iechyd LHDTC+  

Os oes gennych chi neu aelod o'ch teulu neu ffrind gwestiynau am hunaniaeth o ran rhywedd neu os ydych yn cael trafferth gyda'ch cyfeiriadedd rhywiol, mae cefnogaeth ar gael i chi:

  • Enfys Casnewydd - gweithio i wneud Casnewydd yn ddinas fwy cyfeillgar i'r gymuned LHDTC+
  • Umbrella Cymru
  • Stonewall Cymru - cyngor ar sut i gefnogi pobl LHDTC+ yn y gwaith
  • Pride Cymru - mae'r elusen yn gweithio i roi terfyn ar wahaniaethu
  • Rhwydwaith Cymru gyfan yw Bi Cymru ar gyfer pobl sy'n cael eu denu at fwy nag un rhyw a phobl sy'n credu y gallent fod yn ddeurywiol.
  • Mae Rainbow Bridge yn wasanaeth cymorth i ddioddefwyr sy’n benodol yn rhoi cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig sy’n uniaethu fel lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol yng Nghaerdydd a’r Fro.
  • Ymddiriedolaeth Terrence Higgins - y darparwr gwasanaethau HIV ac iechyd rhywiol mwyaf yn y sector gwirfoddol yn y DG, gan redeg gwasanaethau allan o ganolfannau lleol ledled gwledydd Prydain
  • Llinell gymorth LHDTC+ - gwybodaeth, cyngor a chymorth cyfrinachol ar faterion a wynebir gan bobl LHDTC+ eu teuluoedd a'u ffrindiau

Cyhoeddiadau

Age UK - Lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsrywiol yn ddiweddarach mewn bywyd

Stonewall - rhestr termau

Cyswllt 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, os gwelwch yn dda cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y tîm cyswllt cymunedol.