Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Casnewydd

Family Information Service logo_June 2018

Gwybodaeth hwylus, o safon sydd ar gael am ddim i rieni a gweithwyr gofal plant proffesiynol

Os ydych chi'n byw neu'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng eu genedigaeth ac 19 oed ac yn chwilio am ofal plant, gwybodaeth am addysg y blynyddoedd cynnar, gweithgareddau i'ch plant neu help i fagu plant, mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Casnewydd yma i helpu.

Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn cynnig 'siop un stop' trwy'r rhif 01633 210842 gyda gwasanaeth peiriant ateb a thrwy'r ffurflen ymholiadau ar-lein.

Chwilio am ofal plant yng Nghasnewydd

Darllenwch am gynnig gofal plant Casnewydd

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Casnewydd yn rhoi gwybodaeth i deuluoedd sy'n byw neu sy'n gweithio yng Nghasnewydd, gan gynnwys:

Yn ogystal, mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Casnewydd yn cynnig sesiynau briffio a rhaglen hyfforddi i bobl sydd eisiau gweithio gyda phlant neu sy'n gweithio gyda phlant ar hyn o bryd.

Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant

Mae Deddf Gofal Plant 2006 yn ei gwneud yn glir mewn deddfwriaeth bwysigrwydd y rôl y dylai Awdurdodau Lleol ei chwarae wrth ddarparu gofal plant lleol. Mae'n atgyfnerthu'r angen i awdurdodau lleol barhau i weithio mewn partneriaeth â'r sectorau a gynhelir, annibynnol, preifat, gwirfoddol a chymunedol i lunio a sicrhau gwasanaethau plant. 

Mae'r adroddiad hwn yn archwilio gwybodaeth ystadegol sy'n ymwneud â darparwyr gofal plant a chwarae preifat, cyhoeddus a gwirfoddol o fewn ffiniau Dinas Casnewydd.

Rhennir yr adroddiad yn wyth adran, y gallwch eu darllen isod.

Darllenwch ein Crynodeb Gweithredol o’r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant (pdf) sy’n rhoi trosolwg byr o’r adroddiad llawn.

Cysylltu

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Casnewydd

Ffôn:  01633 210842

E-bost: [email protected]

Ewch i dudalen Casnewydd Ifanc i gael gwybodaeth am wasanaethau i bobl ifanc. 

Cysylltu â Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd cyfagos: 

Torfaen 0800 0196 3300

Caerdydd 0300 0133 133

Caerffili 01443 863232

Sir Fynwy 01633 644527. 

 

Hysbysiad preifatrwydd - Gwasnaeth gwybodaeth i Deuluoedd (pdf)