Buddiannau i fusnes
Bydd cwmnïau sy'n ymuno â Prynu â Hyder wedi cael eu barnu fel rhai sy’n cynnig gwasanaeth cwsmeriaid gwell, a byddant yn cael mynediad at gyngor safonau masnachu arbenigol.
Caiff eich busnes ei restru ar y safle Prynu â Hyder lle gall darpar-gwsmeriaid eich canfod, a byddwch yn derbyn tystysgrif aelodaeth y gellir ei arddangos yn eich eiddo.
Mae aelodaeth y cynllun Prynu â Hyder yn helpu i’ch busnes fod yn fwy amlwg
Hefyd ceir sticeri ffenestri a cherbydau a fersiwn electronig o'r logo i'w ddefnyddio ar eich gwefan a deunyddiau hyrwyddo.
Gall Prynu â Hyder fod yn arbennig o ddefnyddiol i fusnesau y mae cwsmeriaid yn eu defnyddio yn awr ac yn y man, megis plymwyr neu drydanwyr, lle na fyddant yn teimlo eu bod yn gwybod sut i ddewis rhwng masnachwyr sy'n cystadlu â’i gilydd, ond eu bod eisiau rhywun y gallant fod â hyder ynddo.
I bob busnes, mae aelodaeth o Prynu â Hyder yn rhoi mwy o amlygrwydd i chi, ac mae’n dweud eich bod ymhlith y goreuon o ran gwasanaeth cwsmer.
Sut i ymuno
Gall busnesau sydd wedi bod yn masnachu am o leiaf chwe mis wneud cais i ymuno a byddant yn cael eu gwirio'n drylwyr cyn cael eu derbyn.
Bydd gwiriadau yn edrych ar ddull y cwmni o ymdrin â gwasanaeth cwsmeriaid, a sicrhau eu bod yn gweithredu o fewn cyfraith defnyddwyr, bod ganddynt yswiriant priodol ac nad ydynt yn galw ar bobl yn ddiwahoddiad.
Os oes problemau, gallwn roi cyngor ar yr hyn y mae angen ei wneud i gyflawni statws Prynu â Hyder.
Pan fo busnes yn mynd i mewn i gartrefi pobl neu â chyswllt rheolaidd â phlant neu oedolion bregus, efallai y gofynnir i weithwyr gytuno i wiriad cofnodion troseddol.
Darllenwch fwy, a gwnewch gais i ymuno gyda Phrynu â Hyder
Rhaid adnewyddu aelodaeth bob blwyddyn.