Casgliadau ar y stryd

Mae angen trwydded gan Gyngor Dinas Casnewydd er mwyn casglu arian at achos da ar y stryd neu mewn man cyhoeddus yng Nghasnewydd. 

Dylai'r cais am drwydded gyrraedd o leiaf mis cyn y dyddiad casglu arfaethedig - cysylltwch â'r tîm trwyddedu isod cyn i chi wneud cais i weld a yw'r dyddiad sydd gennych mewn golwg ar gyfer y casgliad ar gael. 

Rhaid cyflwyno awdurdodiad gan yr elusen i gasglu ar ei rhan gyda'r cais. Nid oes ffi am wneud cais. 

Gwneud cais am drwydded casglu ar y stryd

Mae cydsyniad dealledig yn berthnasol, sy'n golygu y gallwch weithredu fel petai'ch cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol ar ôl dau fis. 

Rhaid dychwelyd datganiad ariannol o fewn mis o'r dyddiad casglu, wedi'i lofnodi gan yr ymgeisydd a chyfrifydd cymwysedig.

Os na fyddwch yn gwneud hynny, gallai caniatâd i gasglu yn y dyfodol gael ei wrthod.

Lawrlwythwch ffurflen ddatganiad casglu ar y stryd (pdf) a'i dychwelyd drwy'r post neu chwiliwch amdani ar-lein.

Nid oes angen trwydded ar gasglwyr arian trwy ddebyd uniongyrchol; cysylltwch â'r tîm trwyddedu i drafod pryd rydych chi'n bwriadu casglu. 

Trwydded casglu o dŷ i dŷ

Mae angen trwydded i gasglu arian neu nwyddau rydych chi'n bwriadu eu gwerthu'n ddiweddarach ar ran elusen. 

Dylai'r cais gyrraedd o leiaf mis cyn y dyddiad casglu arfaethedig; nid oes ffi am wneud cais.

Rhaid cyflwyno awdurdodiad gan yr elusen i gasglu ar ei rhan gyda'r cais. 

Os ydych yn gwneud cais ar ran cwmni casglu dillad gyda'r bwriad o gasglu ar ran elusen, rhaid i chi gyflwyno'r cytundeb neu'r contract diweddar rhwng y cwmni a'r elusen. 

Gwneud cais am drwydded casglu o dŷ i dŷ

Nid yw cydsyniad dealledig yn berthnasol - mae er budd y cyhoedd i'r awdurdod brosesu'ch cais cyn y gellir rhoi caniatâd. Os na fyddwch wedi cael ymateb o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael y drwydded a thystysgrif; rhaid anfon y dystysgrif at Lyfrfa Ei Mawrhydi. 

Dylech fod yn ymwybodol o unrhyw barthau rheoli galw diwahoddiad yng Nghasnewydd.  

Rhaid dychwelyd datganiad ariannol o fewn mis o bob dyddiad casglu, wedi'i lofnodi gan yr ymgeisydd a chyfrifydd cymwysedig.

Os na fyddwch yn gwneud hynny, gallai caniatâd i gasglu yn y dyfodol gael ei wrthod. 

Nid oes angen trwydded ar gasglwyr arian trwy ddebyd uniongyrchol; cysylltwch â'r tîm trwyddedu i drafod pa ddyddiadau sydd ar gael.  

Cysylltu

Anfonwch e-bost at [email protected] neu gofynnwch am y tîm trwyddedu yng Nghyngor Dinas Casnewydd.