Alcohol ac adloniant

 

Hysbysiad adolygiad cryno (pdf)

Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn amlinellu'r gyfraith yn gysylltiedig â gwerthu alcohol, adloniant cyhoeddus, arddangos ffilmiau a pherfformio dramâu, a gwerthu bwydydd a diodydd poeth ar ôl 11pm.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd, sef yr awdurdod trwyddedu, yn defnyddio'r amcanion canlynol i wneud yn siwr bod trwyddedau er budd y cyhoedd: 

  • yn atal troseddu ac anhrefn

  • yn atal niwsans cyhoeddus

  • yn sicrhau diogelwch y cyhoedd

  • yn amddiffyn plant rhag niwed

Trwydded safle - mae ei hangen i werthu a chyflenwi alcohol, darparu adloniant wedi'i reoleiddio a darparu lluniaeth yn hwyr yn y nos.

Trwydded bersonol - mae'n caniatáu i unigolyn gyflenwi alcohol, neu awdurdodi cyflenwi alcohol, o sefydliad sydd â thrwydded safle.

Tystysgrif safle clwb - mae ei hangen ar glybiau sy'n cynnig gweithgareddau o safleoedd y cyfyngir mynediad y cyhoedd iddynt ac sy'n cyflenwi alcohol am resymau heblaw am elw.

Hysbysiad digwyddiad dros dro - gall hysbysiad digwyddiad dros dro awdurdodi gweithgaredd y mae angen trwydded ar ei gyfer, mewn digwyddiad unigol ar raddfa fach.

Polisi Trwyddedu 

Download the Deddf Trwyddedu 2003 Datganiad Polisi Drafft 2021 (pdf)