Cyllid Gwyrdd
Mae’r Ymddiriedolaeth Garbon wedi ymrwymo i gefnogi busnesau yng Nghymru wrth iddynt newid i economi carbon isel. Gallwch ddod o hyd i ystod o offer, canllawiau ac adnoddau am ddim yn www.carbontrust.com/resources.
Mae Llywodraeth Cymru a Busnes Cymru wedi ymrwymo i gefnogi busnesau yng Nghymru gydag effeithlonrwydd adnoddau, lleihau allyriadau carbon a gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn https://businesswales.gov.wales/cy neu drwy ffonio 03000 6 03000.
Mae Wrap Cymru yn gweithio gyda busnesau i’w helpu i leihau deunydd pecynnu a gwastraff gyda chyllid ar gael i helpu gyda’r costau cyfalaf o ddatblygu a chynnal datrysiadau rheoli gwastraff cynaliadwy.
Mae’r gronfa Entrepreneuriaid Ynni yn cefnogi datblygiad technolegau neu brosesau arloesol o ran effeithlonrwydd ynni, storio a chynhyrchiant carbon isel.