Dim cyfle i gael arian cyhoeddus

COVID-19: gwybodaeth i bobl heb hawl i gael arian o gronfeydd cyhoeddus (NRPF) 

Gall pobl heb hawl i gael arian o gronfeydd cyhoeddus gynnwys:  

  • pobl sy'n ceisio lloches
  • ceiswyr lloches 'aflwyddiannus'
  • pobl sydd â chaniatâd yn ôl disgresiwn i aros yn y DU gyda chyfyngiad NRPF
  • ffoaduriaid nad ydynt wedi gwneud cais am ganiatâd amhenodol i aros (ILR) pan fydd eu cyfnod ffoaduriaid pum mlynedd wedi dod i ben
  • Dinasyddion yr UE nad ydynt yn economaidd weithgar, neu sydd neu a oedd yn economaidd weithgar ond na allant ddangos tystiolaeth o hyn
  • Fisa gor-aros
  • Mudwyr heb eu dogfennu
  • aelwydydd 'cymysg'
  •  eraill mewn amgylchiadau penodol fel dioddefwyr cam-drin domestig neu ddioddefwyr masnachu posibl 

Mae gan y rhan fwyaf o bobl sydd â NRPF yr hawl i weithio, ond yn wahanol i lawer o breswylwyr y DU sydd wedi colli swyddi neu sydd wedi gorfod cau eu busnes oherwydd rheoliadau Covid-19, nid oes ganddynt hawl i wneud cais am fudd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm neu'r rhan fwyaf o'r trefniadau cymorth Covid-19 penodol.

Darllenwch ragor o ganllawiau ar y ddogfen Arian Cyhoeddus y Swyddfa Gartref (pdf) 

Help a Chymorth

Yn ystod rheoliadau Covid-19, gall pobl sydd â NRPF gael y gwasanaethau canlynol:

  • Bwyd a ddosberthir gan fanciau bwyd, ffoniwch Gyngor Dinas Casnewydd ar y rhif rhadffôn 08081 963482 neu (01633) 656656, neu e-bostiwch [email protected] <mailto:[email protected]>
  • Cymorth gan bartneriaeth aml-asiantaeth Covid NRPF -Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, y Groes Goch Brydeinig a'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth. E-bostiwch [email protected] i gael gwybodaeth. 
  • Gwasanaethau iechyd – Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgan na fydd unrhyw wybodaeth bersonol yn ymwneud â phobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd yn cael ei rhannu â'r Swyddfa Gartref