Projectau'r ddinas

Project adfywio Pillgwenlli 

Mae oddeutu £6 miliwn wedi’i wario yn yr ardal diolch i raglen a arweiniwyd gan Gyngor Dinas Casnewydd gyda chefnogaeth ariannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop Llywodraeth Cymru a'r Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir. 

Mae Mariner’s Green wedi’i ailddylunio ac mae nawr yn gartref i gofeb y Llynges Fasnachol a’r cofeb VEVJ sydd wedi’i symud o Commercial Street.

Defnyddiodd nifer o fusnesau grantiau busnes i wella eu heiddo, gan eu trawsffurfio a chadw gwedd a theimlad yr hen adeiladau traddodiadol hyn.

Lleolir Academi Ddysgu Gymunedol Pillgwenlli yn y llyfrgell gynt, ac mae bellach yn cynnig cyfleoedd hyfforddiant galwedigaethol i breswylwyr lleol. 

Cafodd tri darn o waith celf anhygoel newydd eu comisiynu ac maent bellach yn eu lle! 

Mae Hanes Porthladd Casnewydd yn nodi canmlwyddiant ers agor y Loc Mawr y De ar 14 Gorffennaf. Crewyd hwn gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Pillgwenlli gyda chymorth Porthladdoedd Cysylltiedig Prydain (ABP).